Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn codi dros £1,300 er cof am Rhodri

Trefnodd y myfyrwyr chwaraeon o Goleg Meirion-Dwyfor daith gerdded noddedig i godi arian i Ymchwil Canser Cymru er cof am eu darlithiwr, Rhodri Scott

Cododd y myfyrwyr chwaraeon o Goleg Meirion-Dwyfor dros £1,300 i Ymchwil Canser Cymru gyda thaith gerdded noddedig er cof am y darlithiwr Rhodri Scott.

Cerddodd y dysgwyr, sydd ar eu blwyddyn gyntaf o gwrs Lefel 3 mewn chwaraeon ym Mhwllheli, dros 16 milltir ar hyd llwybr yr arfordir o Bwllheli i Borth Neigwl ger Abersoch.

⁠Mae eu tudalen JustGiving wedi codi £1,369 hyd yma er cof am Rhodri, a fu farw ym mis Mawrth eleni. Gallwch gyfrannu yma. ⁠⁠

Mewn datganiad ar y dudalen, dywedodd y myfyrwyr: "Rydyn ni fel criw chwaraeon yn y coleg yn gwneud taith gerdded noddedig er cof am ein hathro caredig, gofalgar ac arbennig iawn, Rhodri Scott.

“Collodd Rhodri’r frwydr ar ôl ychydig fisoedd o frwydro'r salwch. Roedden ni fel coleg wedi digalonni wrth glywed y newyddion ofnadwy.

"Roedd yn chwip o athro anhygoel a oedd bob amser yn llwyddo i godi gwên ar wynebau'r rhai oedd yn ei gwmni. Rydyn ni'n codi arian yn ei enw i'r elusen Ymchwil Canser felly mae pob rhodd yn cyfrif.”

Dywedodd y darlithydd chwaraeon a'i ffrind Gwyn Parry Jones: “Roedd Rhodri yn berson caredig a gofalgar iawn ac roedd staff a myfyrwyr wrth eu boddau gydag o. Roedd yn ddyn teulu ac yn frwd iawn am ei chwaraeon, gan fwynhau golff a physgota.

“Rydyn ni wedi bod yn gwneud y daith gerdded ers cwpl o flynyddoedd, ond dw i’n meddwl bod y ffaith ein bod yn ei gwneud er cof am Rhodri wedi gwneud y myfyrwyr yn fwy brwdfrydig, a chwaraeodd pawb eu rhan yn y gwaith trefnu.”

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date