Myfyrwyr yn serennu ar y llwyfan yn 'Arthrawon!'
Sioe yn darlunio bywyd athro trwy lygaid ei fyfyrwyr sydd gan Goleg Meirion-Dwyfor eleni, ac mae tocynnau ar gael
Mae myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn cyflwyno eu sioe lwyfan ar gyfer 2023 - 'Arthrawon!'
Mae tocynnau ar gael ar gyfer Sioe flynyddol Coleg Meirion-Dwyfor, sydd yn ôl yng nghanolfan gelfyddydau Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli am y tro cyntaf ers y pandemig.
Mae 'Arthrawon!' wedi'i seilio'n fras ar y ddrama, 'Teechers', gan John Godber o'r 1980au. Mae wedi’i lleoli yn Ysgol Aberheli, lle ar ddiwrnod olaf y tymor i Flwyddyn 11, mae’r adran ddrama yn perfformio ei drama wreiddiol i'r ysgol gyfan.
Trwy gymysgedd o gomedi, drama a cherddoriaeth mae’r sioe'n dilyn bywyd Mr Nixon, yr athro drama newydd, o safbwynt ei ddisgyblion.
Mae Arthrawon! yn cynnwys cast o ddysgwyr Safon Uwch o gampysau Pwllheli a Dolgellau, sy'n astudio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Cerddoriaeth, Drama, Cemeg, Mathemateg, Saesneg, Daearyddiaeth, Hanes a'r Gyfraith.
Mae'r myfyrwyr wedi bod yn rhan o wneud propiau a gwisgoedd, a marchnata'r sioe hefyd.
Roedd perfformiad agoriadol Arthrawon! brynhawn dydd Mercher, Rhagfyr 6. Mae dau berfformiad gyda’r nos ar ôl – nos Iau, Rhagfyr 7 a nos Wener, Rhagfyr 8 (y ddau am 7.30pm).
Tocynnau ar gael yn https://neuadddwyfor.ticketsol...
Meddai'r darlithydd Gwenno Pritchard yn rhaglen y sioe: “Wedi cyfnod go anodd a phrysur dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n braf cael bod yn ôl, o’r diwedd, yn Neuadd Dwyfor gyda myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor.
“Mae’r pandemig a’r cyfnodau clo wedi bod yn heriol i bawb ac yn arbennig i’n pobl ifanc. Roeddent yn gorfod aros adref a cholli rhan bwysig o dyfu fyny, cymdeithasu a chreu cysylltiadau gyda’u cyfoedion. Mae hyn wedi bod yn ergyd i’w hyder ac yn raddol mae adeiladu yn ôl.
“Mae Arthrawon! yn addasiad o ddrama Teechers gan John Godber. Mae hon yn ddrama a osodwyd yn yr 1980au yn wreiddiol am fyfyrwyr blwyddyn 11 yn perfformio sioe wreiddiol am eu hathro drama newydd. Wrth gwrs mae ysgolion a phobl ifanc wedi newid dipyn ers hynny ac mae hyn i’w weld yn ein haddasiad mwy modern… ond mae’n siŵr bod argraff plant o’u hathrawon yn dal i fod yn ddigon tebyg!”
Diddordeb mewn astudio pynciau Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau amrywiol yma.