Tîm Loop Racing yn cyrraedd rownd derfynol F1 in Schools y DU am yr ail flwyddyn yn olynol
Mae myfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor wedi symud i fyny i'r dosbarth proffesiynol ar gyfer cystadleuaeth eleni
Mae Tîm Loop Racing wedi llwyddo i gyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol F1 in Schools am yr ail flwyddyn yn olynol.
Llwyddodd y tîm, sy'n cynnwys Jack Thomas, Jac Fisher, Osian Evans, Gethin Williams a Jac Roberts, gymhwyso ar ôl dod yn fuddugol yn y dosbarth proffesiynol cyffredinol yn rownd derfynol rhanbarth gogledd Cymru.
Mae'r tîm bellach yn chwilio am fwy o nawdd i fynd â’u car ymlaen i'r cam nesaf yn rowndiau terfynol y DU yn Rotherham ar Fawrth 26 a 27.
I gyfrannu at gais F1 in Schools Tîm Loop Racing, ewch i'w tudalen GoFundMe
Mae Jack, Jac F, Osian, Gethin a Jac R i gyd yn fyfyrwyr Peirianneg Lefel 3 ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli, ac yn datblygu eu car rasio F1 fel rhan o’u prosiect blwyddyn olaf.
Buont yn cystadlu fel Tîm Come and Go yn y dosbarth datblygu yng nghystadleuaeth 2024, gan ddylunio’r car cyflymaf yn y rhagbrofion rhanbarthol i gymhwyso ar gyfer rownd terfynol y DU.
Ar ôl adborth cadarnhaol gan y beirniaid yng nghystadleuaeth y llynedd, fe benderfynon nhw fynd gam ymhellach a chystadlu yn y dosbarth proffesiynol yn 2025.
Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen, ac roedd hyn yn amlwg i'w weld yng nghystadleuaeth ranbarthol gogledd Cymru eleni. Tîm Loop Racing oedd yr unig dîm o’r tri ymgeisydd gwreiddiol i ddylunio a datblygu eu car rasio yn unol â rheoliadau technegol newydd 2025 mewn pryd ar gyfer ras.
Gwnaethant ddylunio eu car yn Hafan ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli gan ddefnyddio pecyn dylunio â chymorth cyfrifiadur Fusion 360, cyn gweithgynhyrchu’r cerbyd ar beiriant melino CNC Denford.
Gan sgorio'n uchel yn pum adran y gystadleuaeth, enillodd Tîm Loop Racing dri phrif gategori eleni. Llwyddodd y tîm, sy'n cynnwys Jack Thomas, Jac Fisher, Osian Evans, Gethin Williams a Jac Roberts, gymhwyso ar ôl dod yn fuddugol yn y dosbarth proffesiynol cyffredinol yn rownd derfynol rhanbarth gogledd Cymru.
Byddant yn cystadlu yn erbyn y talentau peirianneg ifanc gorau o bob rhan o’r DU yng Nghanolfan Magna yn Rotherham yn ddiweddarach y mis hwn, gyda thimau’r dosbarth proffesiynol yn cymhwyso o rowndiau terfynol rhanbarthol de Cymru ac o gyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol ledled Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn rownd derfynol gogledd Cymru, cafodd Tîm Loop Racing eu beirniadu nid yn unig ar sail pa mor gyflym yr oedd eu car yn rasio, ond hefyd ar gyflwyniad llafar a’u portffolios peirianneg a menter.
Roedd yn rhaid iddynt sicrhau nawdd i’w ceir gan fusnesau lleol, gan ddangos eu craffter busnes a marchnata, ac maent bellach yn chwilio am nawdd ychwanegol.
Meddai Emlyn Evans, Darlithydd mewn Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, “Ni fyddai’r tîm mor llwyddiannus heb gefnogaeth eu noddwyr, sy’n rhan sylweddol o’u hymgyrch farchnata a chyllid ar gyfer y gystadleuaeth. Galluogodd hyn y tîm i sgorio'n uchel yn yr agweddau nawdd a marchnata ar y gystadleuaeth.
“Mae Tîm Loop Racing yn edrych am nawdd pellach i'w helpu i’r lefel nesaf. Os gallwch chi helpu, byddai'r tîm yn gwerthfawrogi unrhyw roddion trwy eu tudalen GoFundMe.”