Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Glynllifon yn ymweld â ffair fasnach da byw EuroTier

Teithiodd y dysgwyr amaeth a pheirianneg i'r Almaen i weld y datblygiadau diweddaraf yn y sector, gan gael cyfle'r un pryd i ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol y wlad

Yn ddiweddar, ymwelodd myfyrwyr Coleg Glynllifon ag EuroTier, un o'r ffeiriau masnach mwyaf yn y byd ym maes ffermio a rheoli da byw.

Teithiodd y dysgwyr amaeth a pheirianneg i Hanover yn yr Almaen ac yn y ffair cawsant weld rhai o'r datblygiadau diweddaraf yn y sector ar waith.

Tra oeddent yn yr Almaen, cawsant gyfle hefyd i ymweld â ffatri'r gwneuthurwr combeiniau, CLAAS.

Meddai Esmor Hughes, darlithydd peirianneg yng Nglynllifon: “Mae EuroTier yn llwyfan byd-eang i gwmnïau a masnachwyr yn y diwydiant anifeiliaid fferm ddangos sut maen nhw'n arloesi, ac mae'n rhoi trosolwg o ddatblygiadau, datrysiadau a safonau yn y diwydiant.

“Yn y ffair ceir adrannau ar gyfer gwartheg, moch, dofednod, defaid a geifr. Treuliodd y myfyrwyr ddiwrnod cyfan yn y ffair, gan gael cyfle i holi a gweld y datblygiadau technolegol diweddaraf o ran systemau trin da byw, bridiau, iechyd a maeth, ac adeiladau, yn ogystal â pheiriannau bwydo a thrin anifeiliaid.

“Roedd yna hefyd adran ar gynhyrchu ynni cynaliadwy ar ffermydd, felly cafodd y myfyrwyr syniadau am sut i arallgyfeirio.”

Dyma oedd gan Esmor i'w ddweud am yr ymweliad â ffatri CLAAS yn Harsewinkel: “Roedd yn gyfle gwych i’r myfyrwyr ymweld ag un o gynhyrchwyr peiriannau cynaeafu a thractorau amaethyddol mwyaf blaenllaw’r byd.

“Mi wnaethon nhw ymweld ag amgueddfa ac adeilad arddangos yn ogystal â chael cyflwyniad am y cwmni. Ond yr uchafbwynt oedd gweld y llinell gynhyrchu combeiniau ar waith, a'r holl broses o ddod â'r peiriannau at ei gilydd.

“Roedd y broses yn dechrau trwy ffabrigo ffrâm y combein gyda weldiwr robotig cyn mynd ati i lanhau, golchi a phaentio. Yna roedd y peiriannau, sy'n pwyso hyd at 25 tunnell yr un, yn dod at ei gilydd yn hawdd.

“Roedd y ffatri wedi cael ei hadnewyddu’n ddiweddar, ac roedd llawer o'r tasgau a arferai gael eu cyflawni â llaw bellach yn cael eu gwneud gan robotiaid.”

Cafodd y myfyrwyr gyfle i fwynhau gweithgareddau diwylliannol hefyd, gan ymweld â dinasoedd Bielefeld, Cologne a Berlin. Yn y brifddinas, fe welon nhw safleoedd byd-enwog fel y Reichstag, Porth Brandenburg a Checkpoint Charlie, yn ogystal â rhan o wal Berlin.

Ychwanegodd Esmor: “Roedd hefyd yn gyfle ardderchog i’r myfyrwyr gael profiad o fwyd a diwylliant gwlad arall. ⁠Bydd y profiad yn sicr yn datblygu eu hyder ac yn eu gwneud yn fwy parod i deithio yn y dyfodol. Maen nhw hefyd yn gwybod llawer mwy rŵan am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant amaeth.”

Campws diwydiannau'r tir, sy'n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Coleg Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon. Mae fferm Glynllifon yn 300 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad ac amaethyddiaeth. I ddysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date