Tîm 'Come and Go' yn lansio ymgyrch codi arian ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth 'F1 mewn Ysgolion' y Deyrnas Unedig
Mae tîm o fyfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor yn targedu'r teitl cenedlaethol ar ôl dylunio'r car cyflymaf yn rhagbrofion Gogledd Cymru
Mae dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor wedi lansio ymgyrch codi arian i helpu i ariannu eu cais am lwyddiant cenedlaethol.
Bydd Tîm 'Come and Go', sy'n cynnwys myfyrwyr peirianneg o gampws Hafan Pwllheli,yn mynd i rownd derfynol y gystadleuaeth F1 mewn Ysoglion fis nesaf ar ôl i'w car berfformio gyflymaf yn y rhagbrofion rhanbarthol.
Mae'r dysgwyr bellach wedi creu tudalen GoFundMe, gyda’r nod o gasglu £1,500 i gystadlu yn y digwyddiad yn Rotherham ar 13 ac 14 Mawrth.
Dywedodd y darlithydd peirianneg Emlyn Evans: “Mae eu llwyddiant yn mynd drwodd i rownd derfynol genedlaethol y Deyrnas Unedig yn gofyn am fwy o ymdrechion codi arian gan y tîm.
“Mae cam nesaf y gystadleuaeth yn cynnwys costau cofrestru, dylunio car newydd, profi a gweithgynhyrchu sy’n galw am fwy o ddeunyddiau crai ac adnoddau, arddangosiadau cyflwyno, ynghyd â chludiant a llety ar gyfer y digwyddiad deuddydd.”
Os hoffech chi roi cyfraniad i'r Tîm 'Come and Go', ewch i'r dudalen GoFundMe hon.
Roedd Tîm 'Come and Go', sy'n cynnwys Osian, Liam, Jac J, Jack T, Evan, Jack R a Gethin, yn un o saith tîm a gynrychiolodd Coleg Meirion-Dwyfor yn rhagbrofion Gogledd Cymru'r mis hwn yng Nghanolfan Hamdden Dinbych.
Roedd pump o dimau'r coleg o'r cwrs BTEC Lefel 3 Peirianneg Gyffredinol Uwch a buont yn cystadlu yn y dosbarth datblygu yn erbyn Ysgol Tywyn, Ysgol Syr Hugh Owen, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Uwchradd Cei Connah, Ysgol Uwchradd Prestatyn ac Ysgol Uwchradd Castell Alun.
Roedd y ddau dîm arall o'r cwrs BTEC Lefel 2 Peirianneg Gyffredinol i ddisgyblion 14 i 16 oed, a fu'n cynrychioli'r coleg yn ogystal â'u hysgolion, sef Ysgol Glan y Môr, Ysgol Botwnnog ac Ysgol Eifionydd.
Yn ôl ym mis Medi, dyluniodd y timau eu ceir gan ddefnyddio pecyn dylunio â chymorth cyfrifiadur Fusion 360, cyn eu gweithgynhyrchu ar beiriant melino CNC Denford.
Fe wnaethon nhw rasio'r ceir bedair gwaith ar drac gwastad, 20 metr yn y digwyddiad yn Ninbych, gan gyrraedd cyflymder o fwy na 35 milltir yr awr.
Bu’n rhaid i’r timau sicrhau nawdd i’w ceir gan gwmnïau lleol, a chawsant eu beirniadu nid yn unig ar ba mor gyflym yr oedd eu car yn rasio, ond hefyd ar gyflwyniad llafar i'r beirniaid ac ar eu portffolios peirianneg a menter.
Tîm 'Come and Go', a noddir gan CK Tools a Cwmni Arian Cyf, oedd â’r car cyflymaf ar ddiwrnod y gystadleuaeth, gan orffen yn ail ar draws pob categori y tu ôl i Dîm Elan o Ysgol Uwchradd Dinbych, a fydd yn mynd i rownd derfynol y Deyrnas Unedig hefyd.
Enillodd dau dîm arall o Goleg Meirion-Dwyfor wobrau, gyda 'Hafan Hamsters' yn ennill y categori portffolio peirianneg a dylunio gorau, a 'Yellow Peril' wedi dod i'r brig am yr hunaniaeth brand gorau.
Timau'r coleg a'u noddwyr yn y dosbarth datblygu oedd: Tim 'Come & Go' (a noddir gan CK Tools a Cwmni Arian Cyf), 'Hafan Hamsters' (Pace Fire, MAC Fire and Safety, WRP Fire and Safety), 'Mach 7' (Milliput Dolgellau, Cwt Cybi), 'Meirionnydd Masters' (Automax Motorsport Dolgellau) a 'Yellow Peril' (Deintyddfa Deudraeth, Dyffryn Seaside General Store, Victoria Inn Llanbedr).
Timau'r coleg a'u noddwyr yn y categori lefel mynediad oedd: 'Pwllheli Panthers' (Clogau Motors Dolgellau) a 'Hadron' (BEATServices).
Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.