Alex, sy'n athletwr yn Nhîm Prydain Fawr, yn dychwelyd i'r coleg i arwain sesiwn pêl-fasged cadair olwyn
Cymerodd Alex Marshall-Wilson, a astudiodd Chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo, seibiant o hyfforddi ar gyfer Pencampwriaethau Iau Ewrop yr haf hwn
Cymerodd myfyrwyr Coleg Llandrillo ran mewn sesiwn pêl-fasged cadair olwyn dan arweiniad athletwr yn Nhîm Prydain Fawr, Alex Marshall-Wilson.
Astudiodd Alex, sy'n chwarae i Sheffield Steelers a Phrifysgol Loughborough, Chwaraeon Lefel 3 ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
Mae’r chwaraewr 20 oed o Ddeganwy yng ngharfan Prydain Fawr yn paratoi ar gyfer Pencampwriaethau Iau Ewrop eleni.
Dychwelodd i'r coleg gyda Mark Richards, swyddog chwaraeon anabledd Ffit Conwy, gan gynnal sesiwn ymarferol i ddysgwyr sy'n astudio Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) a Chwaraeon (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff).
Siaradodd Alex â myfyrwyr am hanfodion pêl-fasged cadair olwyn, dysgodd sgiliau amrywiol iddynt, a'u harwain mewn gêm o "British Bulldog".
Yna cawsant gyfle i roi cynnig ar gêm o bêl-fasged cadair olwyn eu hunain.
Dechreuodd taith i Alex i chwaraeon elitaidd gyda chlwb lleol Conwy Thunder, ac mi eglurodd wrth y myfyrwyr sut y gallent hwy gymryd rhan mewn pêl-fasged cadair olwyn hefyd.
Tra ar gampws Rhos, siaradodd Alex am ei amser yng Ngholeg Llandrillo, gan ddweud: “Roedd yn hollol anhygoel – roedd pawb mor gynhwysol o diwtoriaid i gyd-ddisgyblion.
“Roeddwn i’n dod o’r ysgol lle doeddwn i ddim wedi fy nghynnwys mewn llawer o bethau. Roedd y meddylfryd yn hollol wahanol yma gyda thiwtoriaid yn meddwl "sut allwn ni ei gael i wneud hyn"
“Roedd fy nghyd-ddisgyblion mor agored a gonest am bethau. Roedden nhw eisiau gofyn cwestiynau ac fe wnes i gael ychydig o bobl i gymryd rhan yn y gamp - roedd rhai ohonyn nhw’n gwirfoddoli.”
Enillodd Alex y categori Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwobrau Cyflawnwr AB y Flwyddyn Coleg Llandrillo yn 2022, ac yn y seremoni fe’i henwyd yn Brif Enillydd y coleg.
Dywedodd: “Doeddwn i ddim yn gallu credu fy mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer yr un Chwaraeon, ac wedyn roedd mynd ymlaen i dderbyn gwobr y Prif Enillydd yn rhywbeth nad oeddwn wedi ei ddisgwyl o gwbl.”
Mae Alex bellach yn astudio Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Loughborough, a dywedodd fod dod i'r coleg wedi ei helpu i baratoi ar gyfer addysg uwch.
“Fe wnaeth y coleg fy helpu i baratoi a gwybod beth sydd i ddod,” meddai. “Roedd siarad â thiwtoriaid am sut beth oedd prifysgol yn gam mawr ymlaen.”
Yn ddiweddar teithiodd Alex i Hanover yn yr Almaen, lle roedd ei glwb y Sheffield Steelers yn chwarae yn yr EuroCup. Helpodd dîm Prydain Fawr i ennill yr aur yng Nghwpan Pencampwyr Kitakyushu yn Japan ym mis Tachwedd, a’i nod yn y pen draw yw cynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Paralympaidd 2028 yn Los Angeles.
Diolchodd Charlotte Walker-Jones, sy'n ddarlithydd chwaraeon, i Alex am gymryd seibiant o'i hyfforddiant i ddychwelyd i gampws Llandrillo-yn-Rhos.
Meddai: “Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych gyda’r prif ffocws ar sicrhau bod ein myfyrwyr chwaraeon yn cymryd rhan mewn sesiwn flasu pêl-fasged cadair olwyn hwyliog. Mae'r holl fyfyrwyr wedi mwynhau'r sesiwn, ac mae rhai yn bwriadu cofrestru ar gyfer tîm lleol. Diolch yn fawr i Alex a Mark am gyflwyno'r sesiwn.
“Mae wedi bod yn wych clywed pa mor dda y mae Alex yn ei wneud ym Mhrifysgol Loughborough ar ôl gadael y coleg yn 2022. Roedd Alex yn fyfyriwr eithriadol, ac mae wedi bod yn bleser ei gael yn ôl gyda ni.”
Diddordeb mewn astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.