Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tecwyn yn codi £1,600 i elusen y Gwasanaeth Iechyd trwy gyflawni marathon ultra

Gwnaeth y technegydd peirianneg yng Ngholeg Menai gwblhau'r her 38 milltir o hyd i gefnogi ei ffrind a’i gydweithiwr Daron Evans

Gwnaeth Tecwyn Jones, sy'n gweithio i Grŵp Llandrillo Menai, orffen ras 38 milltir o hyd Marathon Ultra'r Gaeaf Pen Llŷn, gan godi mwy na £1,600 i wasanaethau iechyd rheng flaen yng Ngogledd Cymru.

Ymgymerodd Tecwyn â’r her i gefnogi ei ffrind a’i gydweithiwr Daron Evans, sydd wedi cael ei synnu gan y gofal a’r gefnogaeth a dderbyniodd yn Ysbyty Gwynedd yn ystod ei driniaeth ar gyfer canser y coluddyn.

Bydd yr arian a godir yn mynd i Ward Alaw ac Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd, trwy elusen Awyr Las Gogledd Cymru.

Mae Tecwyn, sy'n dechnegydd yn yr adran beirianneg yng Ngholeg Menai yn Llangefni, wedi codi £1,615 hyd yma - gan oresgyn ei darged JustGiving o £400.

Hefyd cyflawnodd ei nod o orffen y digwyddiad heriol mewn llai na naw awr, gan groesi'r llinell derfyn ar ôl wyth awr a 51 munud, gyda'i wyresau ifanc Casi a Tesni yn rhedeg wrth ei ochr ar y cymal olaf.

Dywedodd Tecwyn: “Mae’r ymateb wedi bod yn aruthrol. Rydw i wedi cael fy syfrdanu'n llwyr gan faint o arian sydd wedi’i godi.

“Mae Daron yn ffrind ac yn gydweithiwr annwyl, ac mae fy mab wedi bod yn ffrindiau da efo fo ers blynyddoedd lawer.

“Trwy Ward Alaw a’r Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd, mae Daron wedi cael profiad uniongyrchol o waith anhygoel y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

“Mae pob teulu wedi cael rhywun sydd wedi brwydro â chanser - mae wedi ein cyffwrdd ni i gyd. Mae pob ceiniog yn helpu, a thrwy godi arian i Awyr Las Gogledd Cymru, gallwn gyfrannu at sicrhau’r cyffyrddiadau ychwanegol hynny sy’n gwneud byd o wahaniaeth i gleifion a’u teuluoedd.”

Diolchodd Tecwyn i bawb sydd wedi ei gefnogi, gan gynnwys Karen Hughes, Hwylusydd Llyfrgell a TGCh Coleg Menai, wnaeth lunio a hyrwyddo'r dudalen JustGiving.

“Mae Karen wedi bod yn help mawr, mae hi’n haeddu llawer o glod,” meddai Tecwyn.

Dim ond pum mlynedd yn ôl y dechreuodd Tecwyn, 62 oed, redeg ac mae eisoes wedi cwblhau sawl ras ultra (pellteroedd hirach na marathon 26.2 milltir).

Yr her ddiweddaraf oedd cylchdaith 38 milltir yn dechrau ym Mhwllheli, yna i'r gogledd i Lithfaen, yna i'r gorllewin i Forfa Nefyn a Phorthdinllaen, cyn mynd i'r de i Abersoch ac yn ôl i'r dechrau.

“Maen nhw i gyd yn galed,” meddai. “Ond dydyn nhw ddim yn galw’r ras hon yn ‘hardd ond creulon’ am ddim byd. Roedd y tywydd yn wych, ond mae'n ardal o bant a bryn ac yn fwdlyd iawn. Fe wnaeth y gefnogaeth gan ffrindiau a theulu fy helpu i lwyddo.”

Her nesaf Tecwyn fydd Hanner Marathon Llwybrau Trywydd Betws y Coed ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd.

⁠Os hoffech chi gynorthwyo Tecwyn i godi arian i Awyr Las Gogledd Cymru, ewch i'w dudalen JustGiving. I ddysgu rhagor am Awyr Las Gogledd Cymru, cliciwch yma.