Myfyrwyr yn dysgu am dwristiaeth, bwyd a diwylliant ar drip i Cologne
Ymwelodd dysgwyr y cwrs Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth â marchnadoedd ac atyniadau enwog eraill y ddinas gan gael ‘profiad anhygoel a oedd yn agoriad llygad’
Ymwelodd myfyrwyr Coleg Menai â Cologne i ddysgu am deithio a lletygarwch yn y ddinas Almaenaidd.
Ymwelodd dysgwyr y cwrs Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth â marchnadoedd enwog y ddinas ac atyniadau eraill fel Eglwys Gadeiriol Cologne, Ffatri Siocled Lindt ac amgueddfa gelf y Ludwig.
Fe wnaethon nhw hefyd fwynhau mordaith fin nos a phryd bwyd Nadoligaidd ar afon Rhein, gweld pont reilffordd brysuraf yr Almaen – Pont Hohenzollern – sy'n 400 metr o hyd, ac ymweld â Llwyfan Arsylwi Triongl Cologne, sy'n cynnig golygfa 360-gradd o'r ddinas o'r 29ain llawr.
Yn ystod eu harhosiad pedair noson – a oedd hefyd yn cynnwys diwrnod yn Dusseldorf – dysgodd y myfyrwyr am fwyd, diwylliant, digwyddiadau, a thrafnidiaeth ac ati yn yr Almaen, gan ddod â'r unedau yr oeddent wedi'u trafod ar eu cwrs yn fyw.
Disgrifiodd y dysgwr Mia Eade y trip fel “Profiad anhygoel a oedd yn agoriad llygad”, ac yn ôl Ella Griffiths: “Roedd yr holl brofiad, o brofi gwahanol fwydydd i ymweld â'r marchnadoedd a'r eglwys gadeiriol, i gyd yn arbennig iawn.
“Roedd y gwahaniaethau mor fawr, o feddwl ein bod ni ddim ond taith awr a hanner i ffwrdd mewn awyren. Roedd yr adeiladau, y tai, y bwyd, yr iaith, i gyd mor wahanol.”
Dywedodd Catherine Skipp, Rheolwr Maes Rhaglen y Diwydiannau Gwasanaethu a Busnes yng Ngholeg Menai: “Cafodd y dysgwyr brofiad gwych yn teithio o gwmpas marchnadoedd Cologne ac yn ymweld ag atyniadau eraill.
“Cyfrannodd gweithgareddau'r trip at eu gwaith aseiniad ac fe gawson nhw hefyd brofiad gwerthfawr o ddiwylliant yr Almaen a'r cyfleoedd sydd ar gael i weithio mewn gwlad arall.”
Hoffech chi gael gyrfa gyffrous yn y diwydiant teithio a thwristiaeth? Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau Teithio a Thwristiaeth o Lefel 2 hyd at lefel Gradd. Mae'r cyrsiau hyn yn cynnwys cyfleoedd i ymweld ag atyniadau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, a chyfleoedd i fynd ar brofiad gwaith i leoliadau ledled Ewrop. Dysgwch ragor yma