Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tesni yn dod yn ail yng nghystadleuaeth pobi Llaeth y Llan

Myfyriwr lletygarwch o Goleg Llandrillo yn serennu mewn cystadleuaeth gyda chacen lemwn wedi'i phobi gydag iogwrt y cwmni o Sir Ddinbych

Mae myfyriwr o Goleg Llandrillo, Tesni Young, wedi llwyddo i ddod yn ail yng nghystadleuaeth 'Become a Star Baker' Llaeth y Llan.

Gwnaeth Tesni, sy'n astudio Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2 ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, wneud argraff dda iawn ar y beirniaid gyda'i chacen lemon.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i bobyddion ledled y wlad, ac yn gofyn i gystadleuwyr greu campwaith gan ddefnyddio iogwrt Llaeth y Llan. Roedd rhaid iddynt uwchlwytho llun o'u creadigaeth, ynghyd â'r rysáit.

Roedd Tesni yn un o saith a enillodd gydnabyddiaeth arbennig. Enillodd gopi wedi ei arwyddo o 'The Seasonal Baker' gan gyn-seren Great British Bake Off, Michelle Evans-Fecci, a ffedog Llaeth y Llan.

"Roeddwn i’n falch iawn o fod wedi dod i'r brig yn y gystadleuaeth,” meddai Tesni, o Fetws yn Rhos, a ddefnyddiodd iogwrt lemwn Llaeth y Llan yn ei rysáit. “Hon oedd fy nghystadleuaeth gyntaf felly roedd yn wych bod yn un o’r rhai a gafodd gydnabyddiaeth.”

Mae Tesni yn pobi cacennau gartref yn rheolaidd, ac yn gobeithio agor becws neu fwyty ei hun un diwrnod.

Mae'n mwynhau dysgu ei chrefft yn amgylchedd proffesiynol bwyty Orme View Coleg Llandrillo.

“Rydw i wrth fy modd ar y cwrs,” meddai Tesni. “Dydw i erioed wedi cael diwrnod pan nad ydw i'n teimlo fel dod i'r coleg. Mae fy ffrindiau i gyd yn ei wneud yn werth chweil, ac mae'r tiwtoriaid yn ei wneud yn hwylus dros ben.

“Does dim arholiadau, dim traethodau, dim pwysau, ond rydyn ni’n dysgu pethau newydd bob dydd, dydy’r gwaith byth yn ailadroddus.”

Dywedodd Nia Roberts o Laeth y Llan: “Roedd hi mor braf bod pobydd ifanc a lleol wedi dod yn ail yn ein cystadleuaeth. Cawsom gymaint o ryseitiau amrywiol a blasus ac roedd y safon yn uchel iawn.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd Tesni’n cymryd ysbrydoliaeth o’r llyfr coginio sydd wedi’i lofnodi gan gystadleuydd Great British Bake Off, Michelle Evans-Fecci, a dal ati i bobi!”

Cynhyrchir iogwrt arobryn Llaeth y Llan gan Village Dairy yn Llannefydd, Sir Ddinbych.

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant lletygarwch? Mae maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau llawn amser a rhan-amser, o Lefel 1 hyd at Raddau Anrhydedd, yn ogystal â phrentisiaethau, cymwysterau NVQ a hyfforddiant wedi'i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant. Dysgwch ragor am ein cyrsiau yma.


Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date