Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi pedwar Llysgennad yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o gyhoeddi Lora Jên Pritchard fel Llysgennad Addysg Bellach Cenedlaethol, yn ogystal â thri Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25

Mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddysgwyr yn y coleg a thu hwnt o fanteision astudio a hyfforddi’n ddwyieithog, a’u hannog i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y byd gwaith nes ymlaen.

Yn ogystal bydd y llysgennad cenedlaethol yn cynrychioli llais y dysgwyr addysg bellach yn genedlaethol.

Ymhlith y criw newydd yng Ngrŵp Llandrillo Menai eleni bydd Llysgennad Addysg Bellach Cenedlaethol Lora Jên Pritchard, a Llysgenhadon Addysg Bellach sef Alaw Robyns, Cadi Edwards a Bethan James.

Meddai Lora Jên: “Mae’n fraint cael fy mhenodi’n Lysgenad ar ran Coleg Glynllifon. Gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, mae’n anrhydedd cael y cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg yn y Coleg, a hyrwyddo pwysicrwydd o wneud y cwrs yn y Gymraeg yn ogystal â chymdeithasu er mwyn gallu cerdded i swydd yn y dyfodol yn hyderus i weithio yn y Gymraeg!

“Rwy’n edrych ymlaen i gynnal a bod yn rhan o ddigwyddiadau yn y Coleg a thu hwnt er mwyn rhannu fy sgiliau yn ehangach, a rhoi profiad gwych i bawb yn Coleg i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg!”

Meddai Cadi: “Braint ac anrhydedd yw cael fy newis i fod yn Lysgennad. Dwi'n edrych ymlaen at fod yn llais i fyfyrwyr ifanc. Y cyngor gorau alla i ei roi i unrhyw un ydi 'mae'n well difaru gwneud rhywbeth na difaru peidio â gwneud rhywbeth'.”

Meddai Alaw: “Dw i'n falch a gael bod yn llysgennad ac yn edrych ymlaen yn arw at gael cyfle i ddatblygu a chryfhau'r Gymraeg yn y coleg ac ymhlith y myfyrwyr.”

Meddai Bethan: "Dw i wrth fy modd 'mod wedi cael fy newis yn Llysgennad i'r Coleg. Dw i'n teimlo'n ofnadwy o lwcus i gael cyfle i gryfhau a datblygu'r Gymraeg er lles myfyrwyr y Coleg."

Bydd y llysgenhadon yn dechrau ar eu gwaith y mis yma, a byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg a Grŵp Llandrillo Menai mewn amryw o ddigwyddiadau, yn creu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn cynnig syniadau ar sut i hybu’r Gymraeg o fewn ei coleg. Yn ogystal â hyn bydd y llysgennad cenedlaethol yn cynrychioli llais y dysgwyr yn genedlaethol ac yn cael eu gwahodd i gyfrannu barn a syniadau ar fyrddau academaidd y Coleg.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd iddynt i fagu eu hyder a’u sgiliau, ac i fod yn rhan o gymuned Cymraeg ei coleg.

Eleni mae cyfanswm o 40 o lysgenhadon wedi ei penodi gan y Coleg Cymraeg ar draws 12 coleg addysg bellach, yn cynnwys 4 Llysgennad Cenedlaethol. Mae Elin Williams, Rheolwr Marchnata’r Coleg yn falch i weld y cynllun yn tyfu bob blwyddyn.

Meddai: “Mae’r cynllun llysgenhadon addysg bellach yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o golegau a’u dysgwyr yn frwdfrydig iawn i fod yn rhan o’r cynllun.

“Erbyn hyn rydym yn cydweithio gyda cholegau o bob cwr o Gymru, ac mae’n braf gweld y berthynas yn datblygu.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda’r criw newydd o lysgenhadon a’r llysgenhadon cenedlaethol ac yn gobeithio yn fawr y byddant yn gallu ysbrydoli eu cyfoedion yn eu coleg a thu hwnt i ddefnyddio ac i fod y falch o’i sgiliau dwyieithog.”

I wybod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn y cynllun yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.

Tik Tok, Instagram, X a Facebook: @colegcymraeg

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date