Fideo Tom yn ennill gwobr Diwrnod Shwmae Su’mae
Creodd Tom Roberts, myfyriwr o Goleg Llandrillo, fideo'n dangos ei hoff eiriau Cymraeg ochr yn ochr â pheth o'i waith celf ei hun
Tom Roberts enillodd gystadleuaeth Diwrnod Shwmae Su'mae i ddathlu hoff eiriau Cymraeg ein dysgwyr.
Trefnwyd y gystadleuaeth gan dîm Sgiliaith ac roedd yn agored i fyfyrwyr holl gampysau Grŵp Llandrillo Menai.
Fe'i cynhaliwyd i ddathlu Diwrnod Shwmae Su'mae, sy'n annog pobl i ddefnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd ganddyn nhw trwy ddechrau pob sgwrs gyda Su'mae neu Shwmae.
Gofynnwyd i'r dysgwyr greu darn o gelf oedd cynnwys eu pum hoff air.
Creodd Tom, sy'n astudio Celf a Dylunio L2 ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, fideo'n dangos ei hoff eiriau ochr yn ochr â pheth o'i waith celf ei hun.
Gwnaeth ei greadigrwydd a'i ddewis o eiriau argraff fawr ar y beirniaid, ynghyd ag effaith weledol ei ddarn a'i ddefnydd o wahanol gyfryngau oedd yn cynnwys darluniau, ffotograffau a cherddoriaeth.
Gallwch weld fideo Tom yma.
Dywedodd: “Mi wnes i drio gwneud fy un i ychydig yn wahanol ac ro'n i wrth fy modd fy mod i wedi ennill.
“Ar ôl astudio Cymraeg yn yr ysgol ro'n i'n colli ei defnyddio, ac rydw i'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n defnyddio’r iaith gymaint ag y gallwn.”
Mae Tom ar ei flwyddyn gyntaf yn y coleg, a dywedodd: “Rydw i'n mwynhau fy nghwrs yn fawr. Rydw i'n mwynhau’r rhyddid rydw i'n ei gael gyda fy ngwaith, a chael cyfarfod pobl newydd hefyd.”
Dywedodd Samuel Stones sy’n un o Hwyluswyr y Gymraeg yng Ngrŵp Llandrillo Menai: “Cawsom ymateb da i'r gystadleuaeth, gyda 42 o bobl yn cystadlu o bob campws. Roedd yna amrywiaeth o gynigion gwahanol, yn cynnwys posteri, dreigiau papier-mâché a llawer iawn mwy.
“Roedd ymgais Tom yn weledol iawn ac roedd wedi rhoi llawer o feddwl i'r peth. Roedd y geiriau a ddewisodd yn cŵl iawn, a rhai ohonyn nhw'n rhai doedden ni ddim wedi'u cael fel arall yn y gystadleuaeth. Roedden ni'n hoff iawn o’r dyluniad creadigol gyda gwahanol fath o waith yn cael ei gynnwys.”
Ar ôl ennill y gystadleuaeth, cafodd Tom lun mewn ffrâm yn cynnwys esboniad o’r gair ‘hiraeth’, mwg wedi'i ddylunio gan artist lleol ac arno eiriau Cymraeg ar ffurf map o'r 'underground' yn Llundain, ac offer ar gyfer ei gwrs.
Bydd tîm Sgiliaith yn cynnal rhagor o gystadlaethau yn y flwyddyn newydd. I gael y newyddion diweddaraf, dilynwch @cangengllm ar Instagram.