Y cogyddion blaenllaw Dylan a Dion yn dychwelyd i ysbrydoli myfyrwyr
Rhoddodd y ddau gyn-fyfyriwr o Goleg Menai sgwrs am fod yn wyrdd wrth goginio
Ymwelodd y cogyddion Dylan Owens a Dion Wyn Jones â Choleg Menai i siarad am gynaliadwyedd a'r tueddiadau diweddaraf ym maes coginio.
Mae Dylan a Dion ill dau wedi cael gyrfaoedd hynod o lwyddiannus ar ôl astudio cwrs Lefel 3 mewn Paratoi Bwyd Proffesiynol a Choginio yn y coleg.
Mae Dylan yn Brif Gogydd Lletygarwch yn Stadiwm Etiad Manchester City, tra bod Dion yn Brif Gogydd Gweithredol yng ngwesty’r Rookery Hall yn Swydd Gaer.
Mae’r ddau hefyd wedi ennill nifer o gystadlaethau rhyngddynt, ac yn dal yn ffrindiau agos wedi iddynt fod yn yr un flwyddyn yn y Coleg 17 mlynedd yn ôl.
Daethant yn ôl i gampws Bangor i siarad â staff a dysgwyr am eu llwybrau gyrfa, eu profiadau yn y diwydiant a'u hymrwymiad i redeg busnesau cynaliadwy.
Buont yn sôn am ddefnyddio cynnyrch a chyflenwyr lleol, gan gynnwys yr enghraifft o ffermwr hwyaid a oedd yn cael trafferthion ariannol oherwydd y pandemig cyn i Dylan ymrwymo i gontract ag ef, gan drawsnewid ffortiwn y ffermwr.
Soniodd y ddau hefyd am leihau gwastraff trwy ddefnyddio cymaint o'u stoc â phosibl ar draws eu bwydlenni, gan wneud arbedion yn economaidd ac yn ecolegol.
Dywedodd Dylan: “Dydi bod yn gynaliadwy ddim jyst yn golygu defnyddio cynnyrch lleol a rhoi yn ôl i’r gymuned, mae hefyd yn golygu rhoi yn ôl i’r blaned. Dyna ein cenhadaeth, i fod yn ymwybodol o hynny, ac i addysgu’r myfyrwyr am ba mor bwysig yw cynaliadwyedd ac ôl troed carbon mewn gwirionedd.”
Roedd Dion yn hapus i roi yn ôl i'r coleg lle dysgodd ei grefft, gan ddweud: “Dyma yn lle ddechreuon ni – roedd fy nhair blynedd yng Ngholeg Menai yn anhygoel.
“Roedd gennyn ni athrawon gwych oedd yn ein dysgu ni’n iawn, ac yn ein gwthio ni i wneud profiad gwaith. Roedd yr hyn a gawson ni o fan hyn yn arbennig.”
Siaradodd ef a Dion â'r myfyrwyr am bwysigrwydd dysgu'r pethau sylfaenol yn y coleg cyn mynd allan i'r diwydiant.
Roedd Glenydd Hughes, darlithydd arlwyo yng Ngholeg Llandrillo yn y gynulleidfa a dywedodd: “Mae’n wych gweld pa mor dda mae Dylan a Dion wedi gwneud ar ôl astudio yng Ngholeg Menai.
“Fe wnaethon nhw bwysleisio pwysigrwydd dysgu yn y coleg i gael y pethau sylfaenol yn iawn. Roedd hefyd yn dda eu clywed yn sôn am ethos cynaliadwyedd a’r camau maen nhw’n eu cymryd i geisio dileu gwastraff.
“Mae hynny’n adlewyrchu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu yn y coleg, felly rydyn ni’n paratoi dysgwyr ar gyfer y safonau sy’n ddisgwyliedig mewn diwydiant.”
Dywedodd Catherine Skipp, Rheolwr Maes Rhaglen y Diwydiannau Gwasanaethu a Busnes: “Mae Dylan a Dion wedi cyflawni pethau gwych yn eu gyrfaoedd ers astudio gyda ni yng Ngholeg Menai, ac mae’n wych gweld pa mor dda mae’r ddau yn ei wneud.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am roi o’u hamser i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau gyda’n dysgwyr a’n staff.”
Ydych chi eisiau gweithio ym maes lletygarwch ac arlwyo? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai