Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cogyddion o fri yn dychwelyd i'r coleg i Ginio Gala’r Cyn-fyfyrwyr

Roedd Bryn Williams ymhlith llu o gyn-fyfyrwyr yr adran arlwyo yng Ngholeg Llandrillo a helpodd i godi dros £1,100 at elusen

Dychwelodd rhai o'r cogyddion ardderchog, a gafodd eu hyfforddi yng Ngholeg Llandrillo, ar gyfer Cinio Gala i Gyn-fyfyrwyr a gododd fwy na £1,100 at elusen.

Ymunodd y cogydd enwog Bryn Williams â’i gyd-fyfyrwyr sydd bellach yn gweithio i sefydliadau gan gynnwys The Deganwy Quay Hotel, Dylan’s Restaurant Group, Carden Park yn Swydd Gaer ac Estelle Manor yn Swydd Rydychen.

Treuliodd y cogyddion y diwrnod ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, lle buont yn mireinio eu sgiliau flynyddoedd yn ôl, gan baratoi pryd pedwar cwrs gyda'r nos i westeion gwadd ym Mwyty'r Orme View.

Cawsant gymorth gan fyfyrwyr presennol, tri ohonynt yn gweithio yn y gegin, tra bod eraill yn helpu fel staff blaen y tŷ, gan ennill profiad gwerthfawr o weithio gyda chogyddion dawnus mewn lleoliad ciniawa gwych.

Trefnwyd Cinio Gala’r Cyn-fyfyrwyr gan y darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo, Mike Evans, sy'n ymddeol wedi 39 mlynedd o ddysgu yn y coleg. Hyfforddwyd y rhan fwyaf o’r cogyddion gan Mike, tra bu eraill yn gweithio gydag ef yn ei rôl fel rheolwr tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

Y cogyddion a gymerodd ran oedd:

Danny Burke - Perchennog Olive Tree Catering

Jack Davison - Cogydd datblygu yn Dylan’s Restaurant Group

Dave Kelman - Prif gogydd yn Estelle Manor, Swydd Rydychen

Sue Lacy, Prif Gogydd yn Ysgol Rydal, Bae Colwyn

Harry Osborne, Prif Gogydd yn y Quay Hotel, Deganwy

Harry Paynter-Roberts, Is-gogydd yn Carden Park, Caer

Callum Smith - Cogydd Cynnyrch Crwst yn y Shrewsbury School

Andrew Tabberner - Cogydd ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn

Bryn Williams - Perchennog Porth Eirias a chyn berchennog Odette's yn Llundain

Roedd pob cogydd yn gweithio ar bryd gwahanol, gyda Bryn yn coginio’r ‘Tyrbiaid a Chynffon ychen’ enwog a helpodd ef i ennill ar y rhaglen deledu The Great British Menu yn 2006.

Hefyd ar y fwydlen roedd risotto hadau blodyn yr haul gyda madarch ac artisiogau, prif gwrs o Wellington cig oen a phwdin caraibe mocha mousse.

Dywedodd Mike: “Roedd y bwyd yn anhygoel – tu hwnt i bob disgwyliad. Roedd y prydau'n gwella wrth i ni fynd yn ein blaen.

“Roedd yr holl gogyddion yna mewn un cegin, pawb yn helpu ei gilydd a neb yn rhy fawreddog. Os oedd angen rhywbeth ar un ohonyn nhw, roedd rhywun arall yn neidio i roi help llaw iddyn nhw. Roedd yn rhedeg fel wats.”

Dywedodd Mike fod y myfyrwyr yn y gegin wedi magu hyder yn ystod y dydd wrth iddyn nhw weithio gyda chogyddion o’r radd flaenaf.

“Wrth i’r diwrnod fynd rhagddo fe wnaethon nhw gymryd mwy o ran, fe wnaethon nhw fachu ar y cyfle,” meddai. “Roedd y staff ar flaen y tŷ - tua 75% ohonyn nhw yn eu blwyddyn gyntaf - yn anhygoel. Fyddech chi byth yn dyfalu eu bod nhw newydd orffen eu blwyddyn gyntaf, roedden nhw'n hollol wych.”

Canmolodd y cogyddion eu cyfnod yn y coleg sydd wedi eu harwain at yrfaoedd llwyddiannus.

Dywedodd Bryn Williams: “Fe wnaeth Mike fy ysbrydoli i a llawer o rai eraill dros y blynyddoedd, felly roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan o’i ginio ffarwel. Dw i’n ddiolchgar iawn am bopeth a ddysgodd i mi a dw’n siŵr y bydd colled fawr ar ei ôl.”

Dywedodd Jack Davison, cogydd datblygu ym mwytai Dylan's: “Roedd Mike yn ddylanwad mawr iawn arna i pan oeddwn i yn y coleg. Fe wnes i 18 mis gyda Mike ac yn ystod fy ngyrfa fe wnes i weithio ar dîm iau Cymru gydag ef. Mae wedi bod yn barod i roi cyngor i mi trwy gydol fy ngyrfa.”

Ychwanegodd: “Dysgais hanfodion coginio yma. Mae'n goleg arlwyo da iawn, maen nhw wastad ar ben pethau, yn cynnal digwyddiadau, ac yn dda am gael pobl allan i'r diwydiant. Rydyn ni’n aml yn cymryd pobl ymlaen o'r coleg.”

Meddai Harry Osborne, Prif Gogydd y Quay Hotel yn Neganwy: “Mi wnes i fy NVQ Lefel 1 mewn arlwyo yma. Roedd Mike yn ddarlithydd da iawn ac fe wnes i fwynhau bod yma. Dysgais am goginio ond hefyd am lendid a chadw amser - mae'n lle gwych i ddechrau cyn i chi fynd i'r byd go iawn.”

Yn ystod y cinio cafwyd raffl ac arwerthiant cyfrinachol, gan godi £1,180 i Beat SCAD, elusen sy'n cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan Spontaneous Coronary Artery Dissection.

Cyfrannwyd bwyd y noson gan y cogyddion, a rhoddwyd gwobrau’r raffl ac ocsiwn gan y noddwyr sef Porth Eirias, Y Ceffyl Gwyn Hendrerwydd, Château Rhianfa Ynys Môn, Gwesty’r Quay Deganwy, Carden Park, Pen y Bryn Bae Colwyn, Canolfan Fwyd Bodnant, Grate Cheese Deli, Heartland Coffee Roasters, Dylan's, Wild Horse Brewery a Great Orme Brewery.

Hefyd yn noddi’r noson roedd Channel Fisheries, Tanners Wine Merchants, Penderyn a Castell Howell.

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant lletygarwch? Y maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo yw’r unig un yng Nghymru sy’n darparu cyrsiau llawn amser a rhan-amser, o Lefel 1 hyd at Raddau Anrhydedd, ynghyd â phrentisiaethau, cymwysterau NVQ a hyfforddiant wedi'i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant.⁠ Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.