Cogyddion dan hyfforddiant yn mwynhau profiad gwaith yn ardal Twsgani
Bu myfyrwyr o Goleg Llandrillo a Choleg Menai yn mireinio eu sgiliau mewn bwytai, caffis a gwestai ym Montecatini a Pistoia
Aeth cogyddion dan hyfforddiant o Goleg Llandrillo a Choleg Menai i'r Eidal am bythefnos o brofiad gwaith.
Teithiodd dysgwyr ar y cwrs Coginio Proffesiynol Lefel 1, 2 a 3 i Dwsgani i weithio mewn bwytai, caffis a gwestai yn Montecatini a Pistoia.
Bu'r myfyrwyr yn paratoi ac yn coginio bwyd ar gyfer ciniawa safon uchel, yn dysgu am gyrchu cynhwysion ac yn mwynhau cyfleoedd i flasu'r bwyd lleol.
Cawsant eu lleoli mewn gwahanol sefydliadau naill ai ym Montecatini, lle'r oeddent yn aros, neu yn ninas gyfagos Pistoia.
Bu myfyrwyr yn gweithio amrywiaeth o shifftiau gwahanol dros y pythefnos, gyda dau ddiwrnod i yn rhydd bob wythnos, pan gawsant fwynhau ymweliadau diwylliannol â Florence, Pisa a Lucca.
Dywedodd Erin Price, sy’n astudio Coginio Proffesiynol Lefel 2 yng Ngholeg Llandrillo: “Roeddwn i wrth fy modd. Mae bwyd Eidalaidd yn llawer gwahanol i'r hyn roeddwn i'n ei ddisgwyl. Mae ein bwyd Eidalaidd ni yn Seisnigaidd iawn, ond mae'n blasu'n llawer gwell yn yr Eidal!
“Mae ganddyn nhw seigiau unigryw nad ydyn ni erioed wedi clywed amdanyn nhw yma, ac maen nhw'n flasus iawn, felly rydw i'n falch fy mod wedi cael cyfle i'w bwyta. Hoffwn gael y cyfle i wneud rhywbeth fel hyn eto.”
Dywedodd Isaac Williams, sydd ar yr un cwrs ag Erin: “Mae’n debyg mai dyma’r profiad gorau i mi ei gael eleni.
“Rwyf wedi bod yn gweithio mewn bwyty ers dwy flynedd ond roedd gweithio yno yn rhoi llawer mwy o foddhad.
“Roedd yn braf gweini i niferoedd mawr, gwneud brecwast i 150-200 o bobl mewn gwesty. Roedd yn brofiad gwych.
“Rwy’n dod o’r Unol Daleithiau ac rydw i o'r farn fod llawer o’r bwyd yn y Deyrnas Unedig yn or-gymhleth, mae gormod yn mynd i mewn iddo. Dysgais fod yr Eidal yn rhoi'r pwyslais ar symlrwydd - mae'n llawer llai seiliedig ar dechnegau a mwy am y blas."
Mae Isaac yn ei ail flwyddyn yng Ngholeg Llandrillo, yn astudio ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, ac wedi bod wrth ei fodd gyda'r cyfleoedd a'r cyfleusterau a gynigir gan y coleg.
“Doeddwn i ddim yn gwybod pan wnes i gais am y cwrs hwn faint o gyfleoedd y byddwn yn eu cael,” meddai. “Mae hyn wedi goresgyn fy nisgwyliadau, ac roedd y daith hon yn werth chweil.”
Trefnwyd y lleoliadau profiad gwaith gan IMY (Italy Mobility). Roedd yn rhaid i fyfyrwyr wneud cais trwy gyflwyno CV a llythyr yn nodi'r hyn yr oeddent am ei ddysgu a'r hyn y gallent ei gynnig i'r lleoliadau profiad gwaith.
Yn ogystal ag Erin ac Isaac, y myfyrwyr llwyddiannus oedd Emily Newington, Connor Parry, Callum Hagan, Adam Miller, Joshua Hughes, Grace Ware a Kieran Saturley o Goleg Llandrillo, a Jac Roberts, Gracie Pritchard-Vize, Keira Jones ac Ethan Pengelly o Goleg Menai.
Ar ôl iddynt ddychwelyd i'r coleg, cyflwynwyd tystysgrifau i'r myfyrwyr am gwblhau eu profiad gwaith yn llwyddiannus.
Awydd astudio Lletygarwch ac Arlwyo gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.