Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ymweliad â Thŷ Newydd yn ysbrydoli myfyrwyr

Mwynhaodd dysgwyr Safon Uwch sesiynau gyda rhai o awduron mwyaf blaenllaw Cymru gan gynnwys Mererid Hopwood a Rhys Iorwerth

Yn ddiweddar treuliodd myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor ddiwrnod yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Cymerodd dysgwyr Safon Uwch Cymraeg o gampysau Pwllheli a Dolgellau yn cymryd ran mewn gweithdai gyda rhai o ddoniau llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru yn yr encil yn Llanystumdwy, ger Cricieth.

Ymhlith yr awduron roedd y Prifardd Mererid Hopwood, sef yr Archdderwydd nesaf, a Rhys Iorwerth, a enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Dywedodd y darlithydd Safon Uwch, Marged Tudur: ⁠"Cynhaliwyd sesiynau amrywiol a oedd yn werthfawr iawn i astudiaethau'r myfyrwyr.

"Diolch i Mererid Hopwood, Manon Williams, Eurig Salisbury, Angharad Price a Rhys Iorwerth am ein hysbrydoli, ac i Miriam Williams o Dŷ Newydd am y croeso cynnes a’r gwaith trefnu."

Cafodd y dysgwyr eu hysbrydoli gan y profiad, yn ogystal â’i gael yn ddefnyddiol ar gyfer eu hastudiaethau.

Dywedodd Lois Erin Jones: “Yn sicr, roedd ein hymweliad â Tŷ Newydd yn brofiad gwerthfawr i mi. Cawsom sesiynau gwahanol gan Eurig Salisbury, Angharad Price a Rhys Iorwerth ar Dafydd ap Gwilym, gwerthfawrogi llenyddiaeth a chynganeddu.

“Bydd yr holl wybodaeth o gymorth mawr wrth astudio at yr arholiadau. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg am y cyfle.”

Dywedodd Gwenith Mallt Jones: “Diddorol oedd ein hymweliad â Tŷ Newydd ble buom yn treulio prynhawn yng nghwmni Rhys Iorwerth, Angharad Price ac Eurig Salisbury.

“Ers yr ymweliad mae fy nealltwriaeth o gynganeddu wedi ymestyn a braf oedd cael sesiynau mewn lleoliad mor gartrefol. Buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu neu farddoni i ymweld â Tŷ Newydd.”

Dywedodd Ela Rhys: “Fel myfyrwyr, hynod werthfawr oedd y cyfle gawson ni i ymweld â Tŷ Newydd, Llanystumdwy yn ddiweddar - o’r croeso cynnes gan y criw yno i’r hyn a ddarparwyd i ni o fewn y cyflwyniadau.

“Cawsom gyflwyniadau hynod werthfawr oedd nid yn unig ein harfogi ar gyfer wynebu papur arholiad yn hyderus ond yn fwy na hynny, yn agor ein llygaid i’r hyn sydd y tu hwnt i sefyll arholiad hynny ydi; pwysigrwydd darllen yn gyffredinol a’r grefft o gynganeddu. Cawsom b'nawn diddorol iawn fydd yn sicr o fudd mawr iawn i ni.”

Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio pynciau Safon Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Mae gennym dros 30 o bynciau i’w cynnig. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date