Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Weminar gan y Grŵp ar Astudiaethau Byddardod yn torri tir newydd

Gweithiodd Grŵp Llandrillo Menai ar y cyd â phrosiect WULF Cymdeithas y Swyddogion Carchar i gyflwyno'r weminar i sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru

Mae Grŵp Llandrillo Menai a Chymdeithas y Swyddogion Carchar wedi cyflwyno gweminar ar astudiaethau byddardod i sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Roedd y weminar yn rhoi cyflwyniad i fyddardod, gan fynd i’r afael â chamsyniadau cyffredin, yn ogystal ag archwilio technolegau cynorthwyol a rôl gweithwyr proffesiynol ym maes gwasanaethau iaith.

Cyflwynwyd y weminar gan Abi Woodyear, cydlynydd cyrsiau Astudiaethau Byddardod/BSL y Grŵp i sefydliadau oedd yn cynnwys y gwasanaeth carchardai a phrawf, yr heddlu a'r gwasanaeth tân, a chynghorau lleol.

Dywedodd un cyfranogwr o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Roedd y sesiwn yn hynod ddefnyddiol, ac roedd yn wych cael gwybod am y technolegau gwahanol sydd ar gael.

"Roedd yr enghreifftiau personol a gododd o’r trafodaethau yn cyfleu’r pwyntiau mewn ffordd hawdd iawn i’w deall. Mi fydda i'n sicr o argymell digwyddiadau tebyg i'm cydweithwyr."

Ychwanegodd cyfranogwr arall: "Roedd y fforwm yn groesawgar a defnyddiol, ac roedd y gyflwynwraig yn ddiddorol iawn. Roedd yn ddefnyddiol iawn i’r tîm gael cyfle i oedi ac i ystyried sut rydyn ni'n cyflwyno ein negeseuon diogelwch i'r gymuned ehangach."

Cafodd y weminar ei chanmol hefyd gan gyfranogwr o'r sector Cyfiawnder, a ddywedodd: "Roedd yn cyflwyno llawer o wybodaeth ddefnyddiol mewn ffordd rwydd iawn. Rydw i'n meddwl bod pobl yn dysgu ac yn gwrando'n well mewn sesiynau hamddenol fel hyn, ac mi wnes i fwynhau'r fformat."

Roedd y weminar yn gydweithrediad rhwng Grŵp Llandrillo Menai a Phrosiect WULF (Cronfa Ddysgu Undebau Cymru) Cymdeithas y Swyddogion Carchar.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar yr holl staff sy'n gweithio i'r gwasanaeth carchar a phrawf yng Nghymru, a'r bwriad yw darparu cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau.

Dywedodd Abi: "Rydyn ni wrth ein bodd gyda llwyddiant ein weminar ar Ymwybyddiaeth o Fyddardod a'n bod ni wedi cael ymateb mor gadarnhaol.

"Mae ein cydweithrediad â Phrosiect WULF Cymdeithas y Swyddogion Carchar wedi bod yn allweddol i'n hymdrechion i hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio ar gynlluniau tebyg yn y dyfodol."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Ymwybyddiaeth o Fyddardod neu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Grŵp Llandrillo Menai, cysylltwch ag Abi Woodyear a.woodyear@gllm.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni WULF Cymdeithas y Swyddogion Carchar, ewch i https://poalearning.cymru neu cysylltwch â Nigel Williamson nigel.williamson@poauk.org.uk

Pagination