Enillwyr Gwobrau Cymraeg Grŵp Llandrillo Menai 2023/24
Dathlu ymrwymiad aelodau staff o bob rhan o’r Grwp i’r Gymraeg
Cafodd enillwyr Gwobrau Cymraeg Grŵp Llandrillo Menai 2023/24 eu clodfori mewn seremoni wobrwyo yn ddiweddar.
Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod staff sydd wedi dangos ymrwymiad i ddysgu Cymraeg a gloywi eu sgiliau iaith.
Bob blwyddyn rhoddir gwobr hefyd i 'Bencampwr Cymraeg y Flwyddyn'. Gwobr yw hon sy'n cydnabod ymrwymiad aelod o staff i gefnogi eraill gyda'u Cymraeg a hyrwyddo'r iaith a’r diwylliant Cymreig mewn adrannau.
Enwebir yr aelodau staff gan eu rheolwyr, gyda phanel wedyn yn dewis yr enillwyr. Cadeiriwyd y panel gan Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor a gweddill yr aelodau oedd Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau; Leusa Jones, Swyddog Cangen a Dwyieithrwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; a Siân Pritchard, Rheolwr Sgiliaith, Datblygu Dwyieithrwydd a Chydraddoldeb.
Eleni dewiswyd 12 enillydd o blith 24 o enwebiadau. Yr enillwyr oedd:
Pencampwr Cymraeg y Flwyddyn
Iona Jones, Darlithydd ym maes Dysgu Cymunedol i Oedolion siroedd Conwy a Dinbych (Hwb Dinbych)
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn – Rheolwyr
Jake Halstead, Rheolwr Systemau Gwybodaeth Reoli
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn – Staff Academaidd
- Ruth Ann Jackson, Darlithydd Iechyd a Gofal, Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus (Coleg Menai)
- Alison Mercer, Darlithydd Cyfrifiadura a Diwydiannau Creadigol (Coleg Llandrillo)
- Becs Conant, Hwylusydd Sgiliau Byw'n Annibynnol, (Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor)
- Ian Marshall, Darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus (Coleg Llandrillo)
- Matt Morris, Darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau (Coleg Llandrillo)
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn – Staff Cefnogi
- Andrea Holmes, Cynorthwyydd Personol Gwasanaethau Corfforaethol, Llandrillo-yn-Rhos
- Stephen Roberts, Hwylusydd Sgiliau Astudio, Y Rhyl
- Hannah Ibbotson, Swyddog Iechyd a Diogelwch, Llandrillo-yn-Rhos
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn – Staff Dysgu Seiliedig ar Waith
- Laura Standish, Aseswr Busnes@LlandrilloMenai, Llwyn Brain
- Jan Sowtus, Aseswr Busnes@LlandrilloMenai, Abergele
Cafodd yr enillwyr eu cydnabod mewn seremoni ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, a chawsant eu llongyfarch gan Aled Jones-Griffith. Cyflwynodd ddarn o waith celf i bob enillydd a oedd wedi’i ddylunio’n arbennig gyda map o Gymru wedi'i blethu â geiriau a delweddau’n cynrychioli iaith a diwylliant Cymru.
Dywedodd Aled: “Unwaith eto eleni roedd hi’n bleser bod yn rhan o’r broses wobrwyo wrth i ni fel Grŵp ymfalchïo yn ymdrechion ac ymroddiad ein staff i ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg ar lefel ymarferol.
“Er nad yw’n bosib i ni wobrwyo’r holl ymgeiswyr, mae’n hollbwysig ein bod yn cydnabod ymdrech pawb a ddaeth i’n sylw.
“Ga i hefyd atgoffa pob aelod o staff i barhau i gefnogi gwaith rhagorol ein cydweithwyr sy’n dysgu’r iaith, ac i wneud pob ymdrech i gynorthwyo’r siaradwyr Cymraeg newydd hyn ar eu taith.
“Diolch yn fawr iawn i chi am eich parch at y Gymraeg, eich dyfalbarhad a’ch awydd i ddysgu'r iaith. Rydym i gyd yn ddiolchgar dros ben i chi ac yn hynod o falch ohonoch i gyd.”
Dywedodd Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau: “Rydyn ni’n hynod falch o ddathlu llwyddiannau eithriadol ein haelodau staff ymroddedig.
“Mae ennill y gwobrau hyn nid yn unig yn cydnabod eu hymrwymiad i ddysgu Cymraeg ond hefyd eu hymroddiad i hyrwyddo’r Gymraeg yn y coleg.
“Mae eu hangerdd dros yr iaith yn cyfoethogi’r profiad dysgu i’r staff a’r dysgwyr, gan gyfrannu at uchelgais y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r gwobrau hyn yn brawf o'u gwaith caled a’u brwdfrydedd diwyro, ac rydym yn eu llongyfarch yn galonnog ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.”