Enillwyr Gwobrau Cymraeg Staff Grwp Llandrillo Menai 2021-22
Gyda’r Cynllun Cymraeg Gwaith yn dod i ben ar gyfer cylch 2021/22, cynhaliwyd Gwobrau Cymraeg i Staff am y tro cyntaf eleni, er mwyn dathlu’r staff hynny sy’n rhoi llawer o amser ac ymdrech i ddysgu Cymraeg trwy’r cynllun ac i gydnabod eu gwaith caled ac ymroddiad tuag at yr iaith.
Gyda’r Cynllun Cymraeg Gwaith yn dod i ben ar gyfer cylch 2021/22, cynhaliwyd Gwobrau Cymraeg i Staff am y tro cyntaf eleni, er mwyn dathlu’r staff hynny sy’n rhoi llawer o amser ac ymdrech i ddysgu Cymraeg trwy’r cynllun ac i gydnabod eu gwaith caled ac ymroddiad tuag at yr iaith. Yn ogystal â’r sawl sy’n dysgu Cymraeg o fewn Grŵp Llandrillo Menai, roedd yr achlysur hwn hefyd yn gyfle i adnabod, llongyfarch a diolch i’n pencampwyr Cymraeg.
Gofynnwyd i reolwyr enwebu aelodau o’u staff sydd wedi dangos ymrwymiad i ddysgu Cymraeg, sydd wedi gwneud cynnydd da efo'u sgiliau iaith ac mae hynny i'w weld yn eu gwaith a hefyd staff sydd yn hyrwyddo’r Gymraeg yn eu hadran gyda staff a dysgwyr. Daeth panel ynghyd, sef Aled Jones Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor a chadeirydd y Panel Iaith, Meggan Lloyd Prys, Swyddog Rheoli Prosiect Sgiliaith, Jack Greenhalgh, Llysgennad CCC Coleg Llandrillo ac Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau. Roedd y panel yn falch iawn gweld cymaint o staff haeddiannol yn cael eu henwebu, cyn eu torri lawr i 11 enillydd teilwng.
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn - Staff Cefnogi - Karen Walker Jones (Busnes@)
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn - Staff Asesu (DSW) - Robert Easton (Busnes@)
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn - Staff Academaidd
-Angela Godbert (Iechyd a Gofal Cymdeithasol, H&SC, Coleg Llandrillo)
-Sally Bond (SBA / ILS, Coleg Llandrillo)
Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn - Rheolwr
-Joanne Owen, Rheolwr Addysgu Uwch y Grŵp / Grŵp HE Manager (Coleg Llandrillo)
-Vinnie Ponalagappan, Dirprwy RhMRh Addysg Gyffredinol / Deputy PAM Gen Ed (Llandrillo)
Pencampwr Dwyieithrwydd y Flwyddyn
-Dewi Wyn Roberts, Gwasanaethau Cyhoeddus (Coleg Llandrillo)
-Gareth Harding, Gwasanaethau Cyhoeddus (Coleg Llandrillo)
-Rhian Owena Hughes, Gwasanaethau i Ddysgwyr (Gwasanaethau Academaidd)
-Dawn Thomas Rowlands, Asesydd DSW (Busnes@)
-Tony Fitzmaurice, Asesydd DSW (Busnes@)
Dathlwyd llwyddiant y staff uchod mewn seremoni ar brynhawn Iau, Mawrth 3ydd yn Orme View, Coleg Llandrillo, gyda Aled Jones Griffith a Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai yn eu llongyfarch. Cyflwynwyd print wedi’i greu yn arbennig gan Niki Pilkington ar eu cyfer, i gydnabod pwysigrwydd yr iaith ac ymrwymiad y staff wrth iddyn nhw ddysgu’r Gymraeg. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Niki, sydd yn gyn-ddysgwr Coleg Meirion Dwyfor, am greu’r gwobrau arbennig yma.
Dywedodd Angharad Lloyd-Williams, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau: “Da ni'n falch iawn o'n holl staff sy'n dysgu Cymraeg ac sy'n hyrwyddo'r iaith yn eu hadrannau. Roedd hi'n braf iawn derbyn 29 o geisiadau cryf ar gyfer ein gwobrau Cymraeg i staff. Cafodd y panel her enfawr yn dewis yr enillwyr, ond roedd yr 11 unigolyn a enillodd wobr yn rhai gwbl haeddiannol sy'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw eu hunain yn bersonol ac i'w hadrannau. Fel y coleg sydd â'r ddarpariaeth ddwyieithog fwyaf yng Nghymru, rydym yn llawn sylweddoli ein rhan wrth gefnogi uchelgais y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r cwrs Cymraeg Gwaith yn elfen hollbwysig o'r gwaith yma a dim ond trwy gefnogi oedolion i ddysgu a defnyddio'r iaith y gwnawn ni gyflawni'r uchelgais hon. Llongyfarchiadau enfawr i bawb.”
With the 2021/22 cycle of the Work Welsh programme coming to an end, the Welsh Language Staff Awards were held for the first time this year to celebrate those staff who have given a lot of time and effort to learning Welsh through the scheme and to recognise their hard work and dedication. In addition to those learning Welsh within Grŵp Llandrillo Menai, the occasion was also an opportunity to recognise, congratulate and thank our Welsh Language Champions.
Managers were asked to nominate members of their staff who have demonstrated a commitment to learning Welsh whose good progress with their language skills can be seen in their work, and staff who promote the Welsh language with staff and learners in their department. Aled Jones-Griffith, Principal of Coleg Menai a Coleg Meirion-Dwyfor and Chair of the Panel Iaith, Meggan Lloyd Prys, Sgiliaith Project Management Officer, Jack Greenhalgh, CCC Ambassador at Coleg Llandrillo and Angharad Roberts, Director of Bilingual Development, Learning Resources and Skills met as a panel. The panel were delighted that so many staff had been nominated, but the final 11 were as follows:
Work Welsh Learner of the Year - Support Staff - Karen Walker Jones (Busnes@)
Work Welsh Learner of the Year - Assessment Staff (WBL) - Robert Easton (Busnes@)
Work Welsh Learner of the Year - Academic Staff
-Angela Godbert (H&SC, Coleg Llandrillo)
-Sally Bond (ILS, Coleg Llandrillo)
Work Welsh Learner of the Year - Management
-Joanne Owen, Grŵp HE Manager (Coleg Llandrillo)
-Vinnie Ponalagappan, Deputy PAM Gen Ed (Coleg Llandrillo)
Bilingual Champion of the Year
-Dewi Wyn Roberts, Public Services (Coleg Llandrillo)
-Gareth Harding, Public Services (Coleg Llandrillo)
-Rhian Owena Hughes, Learner Services (Academic Services)
-Dawn Thomas Rowlands, WBL Assessor (Busnes@)
-Tony Fitzmaurice, WBL Assessor (Busnes@)
The success of the above staff was celebrated in a ceremony at the Orme View Restaurant on Thursday 3 March, with Aled Jones-Griffith and Dafydd Evans, Chief Executive of Grŵp Llandrillo Menai congratulating them. They were presented with a specially made print by Niki Pilkington, in recognition of the importance of the Welsh language and the commitment of the staff to learning Welsh. We would like to thank Niki, a former student at Coleg Meirion-Dwyfor, for creating these special awards.
Angharad Lloyd-Williams, Director of Bilingual Development, Learning Resources and Skills: "We are very proud of all the staff who are learning Welsh and promoting the language in their departments. It was very good to receive 29 strong applications for our Welsh language awards for staff. Selecting the winners was challenging for the panel, but the 11 who have received an award are thoroughly deserving as they have made a difference to their own lives and to their departments. As the college with the largest bilingual provision in Wales, we fully realise the part we have to pay in supporting the Government's ambition of reaching a million Welsh speakers by 2050. The Work Welsh course is a vital element of this work and we will only achieve this ambition by supporting adults to learn and use the language. Congratulations to everyone."