Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwr Gofal Seiliedig ar Waith yn cael ei chydnabod gan JISC

Mae un o ddysgwyr Busnes@LlandrilloMenai, Catherine Louise Rider (Kate), wedi cael ei chydnabod am gofleidio Technoleg Addysg. Mae hi'n ddysgwr aeddfed sy'n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol tra'n gweithio i Michael Phillips Care Agency Ltd.

Pan ddechreuodd Kate ei chwrs nid oedd ganddi unrhyw brofiad gyda chyfrifiaduron na thechnoleg o unrhyw fath, ac roedd yn cael trafferth gyda'r pethau sylfaenol. Fel gyda llawer o gymwysterau, mae canran o'r addysgu a'r asesu yn cael ei wneud ar-lein sy'n golygu bod angen i Kate ennill sgiliau TGCh yn gyflym.

Canmolodd yr Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith Yasmin Moore Kate a dywedodd:

“Mae Kate wedi dangos penderfyniad i wella ei llythrennedd digidol. Mi wnaethon ni allu trefnu iddi fenthyg Chromebook i gefnogi ei dysgu. Mynychodd sesiynau wyneb yn wyneb gyda mi hefyd, lle buom yn gweithio ar adeiladu ei sgiliau TGCh a'i hyder. Mae hi wedi meistroli cyfarfodydd ar-lein, ei hadolygiadau ar-lein, mae hi'n gallu gadael adborth i'r asesydd, golygu ei gwaith a threfnu dogfennau pwysig.

“Rwy’n falch o ddweud, gydag agwedd gadarnhaol Kate a’i pharodrwydd i ddysgu, ei bod wedi gallu datblygu ei sgiliau ac wedi gwneud newid sylweddol i’w hagwedd at dechnoleg ddigidol wrth gynnal ac ymarfer y sgiliau newydd hyn. Mae Kate yn fyfyrwraig aeddfed, sydd wedi dangos agwedd gadarnhaol drwy gydol ei chymhwyster. Mae hyn wedi helpu i ddatblygu ei gwybodaeth a'i sgiliau, ac wedi rhoi hyder iddi. Yn fy marn i, credaf fod Kate yn llwyr haeddu’r wobr hon am ei hamynedd, ei hamser a’i hagwedd ragweithiol at ddysgu sgiliau newydd ym maes technoleg addysg.”

Mae JISC yn darparu gwasanaethau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y sector addysg ac ymchwil yng Nghymru. Mae’n cefnogi addysg bellach ac addysg uwch drwy weithio gyda phrifysgolion, colegau, cyrff y sector a rhanddeiliaid i ddatblygu atebion sy’n diwallu anghenion aelodau yng Nghymru.

Mewn datganiad dywedodd JISC:

“Hoffwn ddiolch i chi am enwebu Kate ar gyfer gwobr Myfyriwr Digidol JISC am gofleidio Technoleg Addysg, a'ch llongyfarch gan mai hwn oedd y cynnig buddugol. Cawsom 10 enwebiad i gyd, ond roedd stori Kate yn sefyll allan fel ymgorfforiad o gofleidio technoleg addysg, a dylai fod yn falch iawn ohoni ei hun. Diolch am yr enwebiad.”

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn cefnogi dysgwyr o bob oed i ennill cymwysterau i gefnogi a datblygu eu gyrfaoedd, mae gennym y sgiliau a’r profiad i gefnogi unigolion i wella eu sgiliau hanfodol mewn llythrennedd digidol (cyfrifiaduron a thechnoleg), rhifedd a llythrennedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ennill cymwysterau yn y gweithle cysylltwch â Busnes@LlandrilloMenai i gael gwybod sut y gallwn eich helpu.

busnes@gllm.ac.uk neu 08445 460 460