Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwaith Gwerth £20 Miliwn yn Dechrau ar Drawsnewid Tŷ Menai

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi penodi cwmni Read Construction o ogledd Cymru i wneud y gwaith ar gampws newydd Coleg Menai ym Mangor. Parc Menai, Bangor fydd lleoliad y campws newydd ac anelir at ei gael yn barod i fyfyrwyr erbyn Medi 2024.

Cafodd y prosiect £14 miliwn gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i symud darpariaeth bresennol Coleg Menai ym Mangor o Ffordd Ffriddoedd a safle Friars.

Mae adran Gelf y coleg eisoes wedi’i lleoli ym Mharc Menai a bydd y campws newydd yn gartref i ddeg maes galwedigaethol:

Gwallt a Harddwch, Lletygarwch ac Arlwyo, Busnes, Teithio a Thwristiaeth, y Celfyddydau Perfformio, Cyfryngau (Teledu a Datblygu Gemau), Mynediad i Addysg Uwch, Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac ESOL.

Bydd y campws yn cynnig yr offer a'r dechnoleg ddiweddaraf, a chyfleusterau o'r un safon ag a geir mewn diwydiant, o geginau hyfforddi i ystafelloedd Apple Mac a gwasanaethau Llyfrgell+ modern.

Yn y salonau gwallt a harddwch bydd y dysgwyr yn cynnig triniaethau i'r cyhoedd, a bydd stiwdio berfformio 180 sedd ar gael i'r adran Celfyddydau Perfformio gynnal perfformiadau a sioeau byw. Yn ystod yr wythnos bydd croeso i'r cyhoedd ddod i'r safle i fwynhau pryd o fwyd yn y bwyty hyfforddi.

Yn ogystal, gall y staff a'r dysgwyr fanteisio ar fwyty a bar coffi mawr agored, a bydd lle amlwg i'r Gwasanaethau i Ddysgwyr a fydd yn cynnig cyngor gyrfa, cefnogaeth gyfrinachol a gweithgareddau lles.

Bydd paneli solar, pympiau gwres o'r aer a goleuadau LED yn sicrhau bod y datblygiad cyffrous hwn yn un Carbon Sero Net ac yn cael sgôr rhagoriaeth BREEAM.

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n gweithio hefyd gydag adran Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiadau teithio cynaliadwy i'r safle trwy greu llwybrau beicio.

Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,

"Mae'r campws newydd cyffrous hwn yn gyfle i ni arloesi mewn addysgu trawsadrannol a fydd yn gwella'r profiadau dysgu a gaiff y dysgwyr. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd y cyfleuster yn cryfhau ein cysylltiadau â'n phartneriaid mewn diwydiant a fydd gobeithio'n defnyddio'r campws i gynnal dosbarthiadau meistr ac arddangosiadau."

Ychwanegodd,

"Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth gyson ac am y pecyn ariannu hael rydyn ni wedi ei gael ar gyfer y prosiect hwn."

Meddai Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.

"Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn Pasg 2024, felly rydw i'n edrych ymlaen at roi'r cyfle i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr newydd weld y campws newydd cyn iddo agor y mis Medi canlynol."

"Rydyn ni eisoes yn gweithio gydag ysgolion yn yr ardal fel rhan o'r ddarpariaeth i ddisgyblion 14 - 19 oed ac yn awyddus i ddatblygu'r bartneriaeth ymhellach gan fod gennym ni bellach gyfleusterau modern ar bob safle."

Meddai Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction,

"Rydyn ni'n falch iawn o weithio gyda Grŵp Llandrillo Menai i gyflawni eu cynllun sero net diweddaraf yn Nhŷ Menai. Fel cwmni sydd wedi'i leoli yng ngogledd Cymru, rydyn ni wedi ymroi i ail-fuddsoddi arian Cymru trwy ddefnyddio cwmnïau lleol a chyflogi pobl leol i weithio ar y cynllun uchelgeisiol hwn."

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date