Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ail flwyddyn lwyddiannus i Raglen Hwb Rygbi URC

Cafodd y dysgwyr gynrychioli Cymru ac RGC, tra bod y rhaglen hefyd wedi rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr o bob cefndir a gallu, gyda chynlluniau i ehangu yn 2024/25

Mae Rhaglen Hwb Rygbi URC Grŵp Llandrillo Menai yn dathlu ail flwyddyn ardderchog.

Rhai o'r uchafbwyntiau oedd Leah Stewart, Begw Ffransis-Roberts, Saran Griffiths a Dylan Alford yn cynrychioli Cymru yng Ngwyliau Timau dan 18 y Chwe Gwlad.

Roedd Leah, Begw a Saran hefyd ymhlith wyth o ddysgwyr a chwaraeodd i dîm merched dan 18 llwyddiannus Rygbi Gogledd Cymru yn ystod tymor 2023/24.

Enillodd y merched pob gem yn erbyn y Scarlets, y Gweilch, y Dreigiau a Chaerdydd yn ystod y tymor, gan ddod y tîm cyntaf o Ogledd Cymru erioed i ennill cystadleuaeth Gradd Oedran Rhanbarthol URC.

Yng ngêm y bechgyn, cyrhaeddodd Coleg Meirion-Dwyfor rownd derfynol Cwpan dan 18 Gogledd Cymru, tra daeth tymor Coleg Glynllifon i ben gyda buddugoliaeth o 49-7 yn erbyn Llysfasi.

Nid dim ond ar y cae rygbi yr oedd llwyddiannau'r rhaglen. Mewn partneriaeth â Colegau Cymru, trefnodd swyddog ymgysylltu rygbi URC y Grŵp, Ollie Coles, y twrnamaint pêl-droed ‘Ability Counts’ cyntaf erioed yng Ngogledd Cymru.

Tîm o ddysgwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol o Goleg Glynllifon ddaeth i'r brig ar ôl curo tîm o ddysgwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol o Goleg Menai yn y rownd derfynol.

O ganlyniad, cymhwysodd y ddau dîm ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed Cymru gyfan gyntaf 'Ability Counts' Colegau Cymru yng Nghaerdydd, gyda Choleg Glynllifon yn cyrraedd y rownd derfynol yn y brifddinas.

Roedd uchafbwyntiau eraill rhaglen rygbi 2023/24 yn cynnwys:

  • 178 o sesiynau wedi cu cyflwyno i 2,032 o ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai
  • 90 cyswllt gydag ysgolion a chlybiau cymunedol
  • 19 digwyddiad/gêm i 100 o fechgyn yn cynrychioli Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon, gyda Choleg Meirion-Dwyfor yn cystadlu yn 7 bob ochr yr Urdd a rownd derfynol Cwpan dan 18 Gogledd Cymru
  • 31 sesiwn yn hyfforddi wyth o ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai gyda RGC dan 18, a enillodd y Gystadleuaeth Gradd Oedran Ranbarthol i Ferched Dan 18
  • Rhoi hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) i 160 o ddysgwyr
  • Wedi hyfforddi 20 o arweinwyr rygbi a defnyddiwyd hwy 35 gwaith
  • Wedi hyfforddi 20 ddyfarnwyr a fu'n dyfarnu mewn 47 sesiwn
  • 78 o sesiynau rygbi cynhwysol i dros 200 o ddysgwyr

Mae Rhaglen Rygbi URC y Grŵp yn gweithio ar draws pedwar prif faes llwybr: Llwybr Rygbi i Fechgyn, Llwybr Rygbi i Ferched, Llwybr Gweithlu Rygbi a Llwybr Cynhwysol.

Fel rhan o’r Llwybr Rygbi i Fechgyn yn 2023/24, cymerodd 100 o ddysgwyr ran mewn 10 gêm i Goleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon.

Cafodd Rygbi Coleg Meirion-Dwyfor ymgyrch gref, a oedd yn cynnwys cyrraedd rownd gynderfynol y Plât yn 7 bob ochr yr Urdd yng Nghaerdydd, yn ogystal â rownd derfynol Cwpan Gogledd Cymru.

Ail-sefydlwyd tîm Coleg Glynllifon yn 2023/24, a byddant yn cystadlu yng Nghynghrair Ysgolion a Cholegau dan 18 RGC Gogledd Cymru'r tymor nesaf.

Y cynllun ar gyfer 2024/25 yw sefydlu Rygbi Coleg Menai, gydag Ollie yn dweud: “Dw i’n edrych ymlaen at wylio’r bechgyn o Ynys Môn yn dangos eu galluoedd!”

Fel rhan o’r Llwybr Rygbi i Ferched cynhaliwyd sesiynau hyfforddi agored ar draws y campysau ar gyfer tîm merched Grŵp Llandrillo Menai, a fydd yn cystadlu yng Nghynhadledd Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru am y tymor i ddod.

Dywedodd Ollie: “Ein nod ar gyfer 24/25 yw gweld y merched yn chwarae gemau’n rheolaidd wrth i ni barhau i gynyddu'r arlwy i'r merched.”

Ar y llwybr hwn, ymunodd mwy o ferched â Leah, Begw a Saran i chwarae i RGC; ymunodd Sara Mai-Jones ac Ella Basinger o Goleg Menai, Cadi Edwards o Goleg Glynllifon, a Rhian Williams a Cari Evans o Goleg Llandrillo.

Nod y Llwybr Gweithlu Rygbi ydy datblygu'r genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol i weithio yn y diwydiant chwaraeon.

Fel rhan o’r llwybr hwn, ymgymerodd 25 o ddysgwyr Coleg Llandrillo â chwrs dyfarnu Lefel 1 mewn partneriaeth â’r Urdd. Aethant ymlaen i ddyfarnu sawl cystadleuaeth Rygbi Ysgolion Cynradd yr Urdd yn Llanrwst a Rhuthun, yn ogystal â Chystadleuaeth 7 Bob Ochr flynyddol Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Gwelodd y Llwybr Gweithlu Rygbi sesiynau yn cael eu darparu mewn datblygu chwaraeon, hyfforddiant chwaraeon cynhwysol, a CPR (dadebru cardio-pwlmonaidd) hefyd.

Nod y Llwybr Rygbi Cynhwysol ydy dileu rhwystrau ac ymgysylltu â chwaraewyr waeth beth fo'u gallu, cefndir cymdeithasol neu hunaniaeth.

Dywedodd Ollie fod y llwybr wedi bod yn “un o lwyddiannau mwyaf ein Rhaglen Rygbi GLLM/URC hyd yn hyn, gan ddarparu cyfleoedd i bobl o amrywiaeth enfawr o gefndiroedd a galluoedd i ymgysylltu â rygbi”.

Disgrifiodd y daith i Gaerdydd ar gyfer twrnamaint pêl-droed Ability Counts fel “profiad anhygoel i’r dysgwyr, a gynrychiolodd Grŵp Llandrillo Menai a Gogledd Cymru yn ardderchog”.

Gwelodd y Llwybr Rygbi Cynhwysol hefyd chwe dysgwr cyn-alwedigaethol o Goleg Glynllifon yn mynd i ddigwyddiad Anabledd y Chwe Gwlad ym Mhrifysgol Bangor, lle buont yn cefnogi hyfforddwyr URC ac yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu.

Ychwanegodd Ollie: “Wrth edrych ymlaen at 24/25, rydyn ni’n gobeithio ehangu nifer ac ansawdd y cyfleoedd i ddysgwyr o fewn ein llwybr cynhwysiant, gyda dychweliad Gŵyl Rygbi Gallu Cymysg Grŵp Llandrillo Menai a gynhelir yn Stadiwm CSM.”

I ddysgu rhagor am Academi Rygbi Coleg Llandrillo, cliciwch yma. I ddysgu rhagor am Raglen Hwb Rygbi URC Grŵp Llandrillo Menai cysylltwch ag Ollie Coles o.coles@gllm.ac.uk