Evan, Madeleine ac Yuliia yn rhan o Garfan y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills 2026
Rŵan mae'r tri dysgwr o Grŵp Llandrillo Menai'n wynebu 18 mis o hyfforddi dwys wrth iddyn nhw ymdrechu i gael eu dewis i fod yn rhan o'r tîm fydd yn cystadlu ar brif lwyfan y byd yn Shanghai
Mae Evan Klimaszewski, Madeleine Warburton ac Yuliia Batrak o Grŵp Llandrillo Menai wedi’u dewis yn swyddogol i fod yn rhan o'r garfan sy'n paratoi i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth WorldSkills Shanghai 2026.
Yn awr bydd Evan, Madeleine ac Yuliia yn ymuno â rhaglen hyfforddi ddwys yn eu hymdrech i gael eu dewis i fynd i Tsieina i gymryd rhan ym mhrif gystadleuaeth sgiliau'r byd.
Bydd Tîm y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan mewn dros 30 disgyblaeth yn y gystadleuaeth ryngwladol a gynhelir rhwng 22 a 27 Medi 2026.
Mae carfan hyfforddi wedi'i dewis ar gyfer pob disgyblaeth – ond dim ond un cystadleuydd o bob disgyblaeth fydd yn cael ymuno â Thîm y DU ac yn hedfan i Shanghai.
Mae Evan, sy'n astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, wedi'i ddewis i fod yn rhan o'r garfan Electroneg.
Prentis ym maes technoleg tyrbinau gwynt ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl yw Madeleine ac mae'n rhan o'r garfan Ynni Adnewyddadwy.
Mae Yuliia, sy'n fyfyriwr ar y cwrs Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn Rhos yn rhan o'r garfan Gwasanaethau Bwyty.
Roedd Madeleine ac Yuliia eisoes wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi gyda’u carfanau cyn i Garfan y Deyrnas Unedig gael ei chyhoeddi'n swyddogol heddiw.
Dewiswyd y tri ar sail eu llwyddiant yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd y garfan sy'n paratoi ar gyfer Shanghai 2026 hefyd yn cynnwys staff o Grŵp Llandrillo Menai gan fod Bryn Jones a Geraint Rowlands wedi'u penodi'n rheolwyr hyfforddi i WorldSkills UK, y cyntaf ar gyfer gweithgynhyrchu ychwanegion a'r ail ar gyfer electroneg.
Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydyn ni'n eithriadol o falch bod Evan, Madeleine ac Yuliia wedi cael eu dewis i fod yn rhan o garfan y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills 2026.
“Ar ôl perfformio cystal yn rowndiau terfynol WorldSkills UK maen nhw’n llawn haeddu cael eu dewis gan eu bod wedi dangos nid yn unig lefel uchel eu sgiliau, ond hefyd pa mor benderfynol ydyn nhw o lwyddo yn eu gwahanol feysydd.
“Bydd bod yn rhan o'r garfan yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau hyd yn oed ymhellach, ac rydyn ni'n gobeithio eu gweld nhw'n cynrychioli Grŵp Llandrillo Menai, Cymru a'r Deyrnas Unedig yn Tsieina'r flwyddyn nesaf. Pob lwc i bawb.”
Ychwanegodd Aled: “Rydyn ni hefyd yn falch iawn bod Bryn a Geraint, dau aelod o'n staff, wedi cael eu penodi'n rheolwyr hyfforddi ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026. Mae hyn yn brawf o safon uchel yr addysg a ddarperir gan y Grŵp er mwyn helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar yr economi ac ar gyflogwyr yng ngogledd Cymru.”
Bydd 1,500 o bobl ifanc o dros 80 o wledydd yn teithio i Tsieina ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026. Byddant yn cystadlu mewn categorïau sgiliau technegol gwahanol, yn amrywio o beirianneg, gweithgynhyrchu a thechnoleg i sgiliau creadigol, sgiliau digidol a lletygarwch.
Ymysg y gynulleidfa o 250,000 o bobl a fydd yn eu gwylio'n cystadlu bydd cynrychiolwyr llywodraethau, addysgwyr a chyflogwyr blaenllaw o bob cwr o'r byd.
Meddai Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i Evan, Yuliia a Madeleine ar gael eu dewis i fod yn rhan o'n rhaglen hyfforddi ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026. Ar y cyd ag aelodau eraill ein rhaglen, byddant yn datblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i hybu twf busnesau ym mhob rhan o'r economi.
“Mae'r ffaith fod cystadleuaeth WorldSkills yn cael ei chynnal yn Shanghai y flwyddyn nesaf yn gyfle gwych i ni weithio’n agos gyda Tsieina, lle'r ydyn ni’n gwybod bod rhagoriaeth sgiliau yn flaenoriaeth. Felly cawn ddysgu gan y gorau yn y byd.”
Pearson, y cwmni dysgu gydol oes, yw partner swyddogol Tîm y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills Shanghai, yn dilyn eu partneriaeth lwyddiannus yn WorldSkills Lyon y llynedd.
Meddai Freya Thomas Monk, rheolwr gyfarwyddwr Pearson Qualifications: “Mae Pearson yn falch o noddi Tîm y DU. Mae hyrwyddo proffil a phwysigrwydd addysg dechnegol a galwedigaethol yn hynod bwysig i ni a dymunaf bob lwc i'r criw yma o bobl ifanc dalentog sy'n dod o bob rhan o'r wlad wrth iddyn nhw ddechrau ar eu rhaglen hyfforddi i gael cystadlu yn Shanghai.”