Ymweld â ffatri Toyota yn tanio awydd myfyrwyr peirianneg tanwydd i lwyddo
Aeth dysgwyr Peirianneg Lefel 3 o Goleg Meirion-Dwyfor i ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy i weld drostynt eu hunain sut mae’r injan hybrid pumed cenhedlaeth yn cael ei hadeiladu
Gwelodd myfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor sut mae ceir gwyrddach yn cael eu cynhyrchu yn ystod cyfres o ymweliadau â ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy.
Aethpwyd â dysgwyr ar y cwrs Peirianneg Uwch Lefel 3 ym Mhwllheli a Dolgellau ar daith y tu ôl i'r llenni yn Toyota Manufacturing United Kingdom (TMUK).
Gwnaeth Tim Elson, Aaron Lambert a Charlotte Bell o Toyota eu harwain ar daith drwy’r ffatri sy’n gweithgynhyrchu’r injan hybrid pumed cenhedlaeth, sy’n cael ei danfon i bedwar ban byd o Ogledd Cymru.
Cafodd y dysgwyr brofiad uniongyrchol o sut mae ffatri fodern yn cydosod injan mor uchel ei pherfformiad ac sy’n defnyddio tanwydd yn effeithlon, a gweld sut mae Toyota’n ysgogi arloesi modurol cynaliadwy.
Dywedodd darlithydd Peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor, Emlyn Evans: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Tim, Aron a Charlotte a staff cynorthwyol Toyota UK Glannau Dyfrdwy am gynllunio a pharatoi ar gyfer yr holl ymweliadau eleni.
“Fe wnaeth Tim, Aaron a Charlotte wneud yr ymweliadau’n ddifyr a diddorol i’n dysgwyr, ac maen nhw wedi elwa’n fawr.”
Cafodd y myfyrwyr y cyfle i weld sut mae Toyota yn defnyddio gweithgynhyrchu darbodus i uchafu effeithlonrwydd cynhyrchu a lleihau gwastraff - gan gyd-fynd â'r uned systemau gweithgynhyrchu modern a astudir yn ail flwyddyn a blwyddyn olaf eu cwrs yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
Cafodd dysgwyr yr ail flwyddyn y dasg o roi eu sgiliau gweithgynhyrchu darbodus ar waith mewn gweithgaredd STEM a drefnwyd gan Tim ac Aron o Toyota, a chafodd dysgwyr y flwyddyn gyntaf gipolwg ar y byd go iawn i'w paratoi ar gyfer eu hastudiaethau yn eu blwyddyn olaf.
Trefnwyd gweithgaredd bonws yn ystod eu hymweliad hefyd. Bu dysgwyr y flwyddyn gyntaf yn Apex Karting yng Nghaer, gan fynd amdani i gael lap cyflymaf y dydd a'r hawliau brolio o guro eu darlithydd.
Ychwanegodd Emlyn: “Mae Toyota yn adnabyddus am ei rôl arweiniol ym maes arloesi modurol cynaliadwy a’u hymgais i sicrhau perffeithrwydd, datrys problemau, gwelliant parhaus a gweithgynhyrchu darbodus - pynciau a drafodir yn yr uned Systemau Gweithgynhyrchu Modern yn ail flwyddyn y cwrs.
“Mae ein myfyrwyr ail flwyddyn wedi cael profiad gwerthfawr a fydd yn eu paratoi ar gyfer llwyddiant yn eu haseiniad terfynol, lle bydd angen iddynt gyflwyno ac addysgu eu cyfoedion am dri theclyn darbodus mewn ffordd ryngweithiol a diddorol. Bydd yr ymweliadau hefyd yn paratoi ein dysgwyr blwyddyn gyntaf ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Peirianneg Lefel 3 a Lefel 4 yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, cliciwch yma. Fel arall, cysylltwch ag Emlyn Evans yn uniongyrchol - evans12e@gllm.ac.uk