Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Comisiynydd Pobl Hŷn yn ymweld â dosbarth cyfrifiadura i weld effaith hyfforddiant sgiliau digidol ar y gymuned leol

Ymwelodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru â dosbarth poblogaidd Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol i Ddechreuwyr ym Menllech yr wythnos hon, i gael cipolwg ar effaith gadarnhaol dosbarthiadau digidol cymunedol i bobl hŷn.

Mae'r cwrs Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol sy'n cael ei gyflwyno gan Potensial yng Ngholeg Menai, wedi'i anelu at rymuso pobl hŷn gyda'r hyder a'r gallu i lywio'r byd digidol.

Amlygodd ymweliad y Comisiynydd – Rhian Bowen-Davies - bwysigrwydd cyfleoedd dysgu hygyrch i’r rhai sydd am ddatblygu sgiliau digidol hanfodol, megis defnyddio ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen.

Mae'r cwrs yn ymdrin â hanfodion defnyddio ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen, gan alluogi'r cyfranogwyr i gadw mewn cysylltiad â theulu, cyrchu gwybodaeth bwysig, ac ymgysylltu â gwasanaethau ar-lein.

Elfen allweddol o’r cwrs fu benthyca 7 cyfrifiadur llechen Samsung 7, a ariannwyd drwy haelioni Age Cymru.

Mae'r rhai fu'n cymryd rhan yn y cyrsiau cymunedol wedi elwa’n fawr o’r cyfrifiaduron llechen, gan eu defnyddio i ddatblygu eu sgiliau Technoleg Gwybodaeth sylfaenol a magu hyder wrth ddefnyddio technoleg. I lawer, mae hyn wedi bod yn gam tuag at brynu eu dyfeisiau eu hunain, gan feithrin annibyniaeth a chynhwysiant yn yr oes ddigidol.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru,

“Wrth i wasanaethau ar-lein barhau i chwarae mwy o ran yn ein bywydau bob dydd, mae’n hanfodol fod pobl hŷn yn medru cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddysgu sgiliau digidol fel nad ydynt yn cael eu hallgáu a'u gadael ar ôl.

“Roedd yn wych ymuno â phobl hŷn yn y dosbarth yng Ngholeg Menai i weld y gwahaniaeth cadarnhaolnmae'r dosbarthiadau hyn wedi'u gwneud o ran magu hyder pobl a'u galluogi i fynd ar-lein i gael gwybodaeth a gwasanaethau, ynghyd â chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.”

Yn ogystal â chyrsiau sgiliau digidol, mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i oedolion yn y gymuned am ddim ar draws rhanbarth gogledd orllewin Cymru. Fel arfer mae'r nifer yn y dosbarth yn fach, gyda rhwng wyth a 12 o ddysgwyr, gan sicrhau sylw personol a chyflymder cyfforddus i'r holl gyfranogwyr.

Dywedodd Catrin Williams, Rheolwr Maes Rhaglen Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Ngholeg Menai,

“Mae ymweliad y Comisiynydd Pobl Hŷn yn tanlinellu’r rôl hanfodol mentrau cymunedol o’r fath wrth gefnogi pobl hŷn a’u helpu i aros yn gysylltiedig mewn byd cynyddol ddigidol. Gyda chymorth sefydliadau fel Age Cymru, mae’r dosbarthiadau hyn yn helpu i bontio’r gagendor digidol i bobl hŷn, gan gynnig y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y byd modern.”

Dysgwch ragor am y cyrsiau dysgu oedolion yn y gymuned drwy glicio yma.

Cofiwch ddilyn Potensial ar Facebook i fod y cyntaf i glywed am gyrsiau newydd sy'n cael eu cynnig.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date