Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Codwyr ifanc yn cystadlu i greu'r gêm orau

Cynhaliodd Coleg Meirion-Dwyfor gystadleuaeth i blant ysgol gynradd i brofi'r sgiliau y maent wedi'u dysgu gyda chymorth myfyrwyr TG y coleg

Creodd y plant o Ddolgellau, sydd wrth eu bodda'n codio, gemau gwreiddiol mewn cystadleuaeth yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

Roedd y gystadleuaeth yn gyfle i blant Blwyddyn 5 a 6 brofi'r sgiliau y maen nhw wedi eu datblygu gyda chymorth gan fyfyrwyr TG y coleg.

Yn ystod y flwyddyn, mae’r myfyrwyr sy'n astudio ar y cwrs Lefel 3 mewn Technoleg Gwybodaeth ar gampws Dolgellau wedi bod yn cynnal Clybiau Codio yn ysgolion Bro Idris.

Maent wedi dysgu sgiliau codio sylfaenol i 87 o blant, sy'n defnyddio'r hyn y maent wedi'i ddysgu i greu gemau a gweithgareddau hwyliog.

Penllanw’r prosiect yw’r gystadleuaeth ar gampws Dolgellau Coleg Meirion-Dwyfor, lle mae’r disgyblion yn cael y dasg o ddyfeisio gêm wreiddiol, i’w chodio a’i chreu gan ddefnyddio meddalwedd Scratch.

Mae'n rhaid iddynt ystyried cefndiroedd, cymeriadau, synau, sut bydd pwyntiau'n cael eu hennill (neu eu colli) a sut y gellir ennill y gêm.

Caiff y gemau eu beirniadu ar sail creadigrwydd a gwreiddioldeb, hyfedredd technegol, y chwarae a phrofiad y defnyddiwr - gyda phob cystadleuydd yn y parau cyntaf, ail a thrydydd safle yn ennill tabled i fynd adref gyda nhw.

Enillwyr y gystadleuaeth eleni oedd:

  • 1af: Cynan ac Erin, Safle Dinas Mawddwy
  • 2il: Jini a Cadi, Safle Dolgellau
  • 3ydd: Cadi ac Iago, Safle Rhydymain

Dywedodd Sioned William, Cydlynydd y Cwrs L2 a L3 mewn TGCh yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: “Dyma’r flwyddyn gyntaf ers Covid-19 i'r Clybiau Codio gael eu cynnal yng Ngholeg Meirion-Dwyfor eto.

“Maent yn gyfle gwych i ddatblygu'r sgiliau codio y mae galw mawr amdanynt ac i feithrin diddordeb mewn codio o oedran ifanc, maes sy’n uchel ar yr agenda mewn ysgolion cynradd.

“Ond hefyd, mae’n gyfle gwych i’n dysgwyr ddefnyddio eu sgiliau a gweithio gyda’r gymuned leol. Mae’r rhan fwyaf o’n dysgwyr yn nerfus i ddechrau, ond ar ôl iddyn nhw wneud y sesiwn gyntaf maen nhw’n ei fwynhau’n fawr ac yn ei nodi fel un o uchafbwyntiau’r cwrs!”

Dywedodd Haydn, un o’r myfyrwyr Lefel 3: “Roedd yn cŵl gweld sut roedd y rhan fwyaf o’r plant yn deall sut i godio’n sydyn a sut oeddent wedi mwynhau’r sesiynau.”

Dywedodd Micah: “Roedd yn brofiad diddorol, dw i’n teimlo ei fod o fudd i’r plant. Roedd yn gyfle da i’r plantos, ac i ni gael mynd allan o’r ystafell ddosbarth a defnyddio ein sgiliau.”

Mae Code Club yn fenter genedlaethol a gefnogir gan y Raspberry Pi Foundation, sy'n hyrwyddo llythrennedd digidol a sgiliau o'r radd flaenaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Eu nod yw grymuso pobl ifanc i ddefnyddio technolegau cyfrifiadurol i siapio'r byd.

Hoffech chi weithio yn y sectorau cyfrifiadura, technoleg ddigidol neu ddatblygu gemau? Cliciwch yma i ddysgu mwy am yr ystod o gyrsiau a gynigir gan Grŵp Llandrillo Menai.