Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pedwar Myfyriwr yng Ngharfan dan 18 oed Ysgolion Cymru ar gyfer Twrnamaint Pêl-droed y Roma Caput Mundi

Bydd Morgan Davies, Byron Davis, Osian Morris a Rhys Williams yn helpu Cymru i amddiffyn y tlws yn y twrnamaint blynyddol yn yr Eidal

Mae pedwar o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yng ngharfan dan 18 oed Ysgolion Cymru sy'n anelu at gadw tlws y Roma Caput Mundi.

Bydd Morgan Davies, Byron Davis, Osian Morris a Rhys Williams yn teithio i'r Eidal ar gyfer y twrnamaint blynyddol a enillodd Cymru am y tro cyntaf y llynedd.

Mae'r pedwar yn chwarae i dîm Coleg Menai/Coleg Meirion-Dwyfor sy'n ail ar hyn o bryd yn Uwch Gynghrair 2 yr ECFA i ddynion.

Byddant yn teithio i'r Eidal ar 26 Chwefror, ac yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn tîm lleol yn Bologna cyn dechrau chwarae eu gemau grŵp yn erbyn Canada, Groeg a Lazio, tîm rhanbarthol o'r Eidal.

Gobaith y tîm fydd ailadrodd llwyddiant y llynedd pan enillodd Cymru eu grŵp cyn mynd ymlaen i guro Lloegr yn y rownd derfynol.

Mae Marc Lloyd Williams, rheolwr tîm dan 18 oed ysgolion Cymru hefyd yn ddarlithydd ac yn Gydlynydd yr Academi yng Ngholeg Menai. Meddai: “Roedd bod y garfan gyntaf o Gymru i ennill twrnamaint y Roma Caput Mundi yn gamp aruthrol, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at y cyfle i amddiffyn y tlws a enillwyd gennym ar giciau o'r smotyn y llynedd.

“Roedd Morgan yn rhan o'r garfan fuddugol y llynedd, ond dyma fydd profiad cyntaf Byron, Osian a Rhys o'r twrnamaint. ⁠Mae'r pedwar wedi dangos eu hymroddiad i'w hastudiaethau a'u pêl-droed, ac maen nhw'n llwyr haeddu eu lle yn y garfan.”

Mae Morgan a Byron yn aelodau o Academi Menai, tra bod Osian a Rhys yn aelodau o Chwaraeon CMD ac mae'r pedwar yn cyfuno'u hastudiaethau â'u diddordeb mewn pêl-droed. Roedd y pedwar wedi chwarae i dîm dan 16 oed Clwb Pêl-droed Caernarfon a chawsant y cyfle i ymuno â'u hacademïau yn sgil y bartneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai a'r clwb.

Dywedodd Marc: “Mae'r ffaith bod y pedwar wedi cael lle yng ngharfan Ysgolion Cymru – ar ôl bod yn chwaraewyr allweddol i dîm yr Academi sy'n agos i frig Uwch Gynghrair yr ECFA – yn brawf o lwyddiant ein partneriaeth â chlwb pêl-droed Caernarfon.”

Mae Morgan, sy'n chwaraewr canol cae, yn astudio pynciau Lefel A yng Ngholeg Menai a bellach yn chwarae i Caergybi Hotspur. Dilyn cwrs Lefel 2 mewn Plastro ar gampws Coleg Menai yn Llangefni mae Byron, ac mae'n ymosodwr i dîm pêl-droed Caernarfon.

Mae Osian yn dilyn cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg ar gampws CaMDA yn Nolgellau, ac mae'n ymosodwr i dîm Dolgellau Athletic. Ar gampws CaMDA mae Rhys yn astudio hefyd, ac mae'n dilyn y cwrs Sylfaen ym maes Adeiladu. Mae'n chwarae yn y gôl i dîm y Bermo a Dyffryn United.

Ychwanegodd Marc: “Oherwydd y berthynas weithio agos sydd gennym â holl adrannau’r Grŵp, mae'r dysgwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon allgyrsiol, p'un ai a ydyn nhw'n dilyn cwrs academaidd neu alwedigaethol gyda ni. Mae hyn yn rhoi cyfle i mi weld y chwaraewyr yn cymryd rhan mewn gemau pêl-droed wythnosol sy'n cael eu chwarae ar y lefel golegol uchaf, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw hogi eu crefft ac ennill cydnabyddiaeth ryngwladol.”

Ydych chi eisiau astudio a chymryd mewn chwaraeon lefel uchel yr un pryd? Dysgwch ragor am academïau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai yma⁠

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date