Yuliia yn ennill pedair medal aur mewn cystadleuaeth goginio o fri
Ysgydwodd y fyfyrwraig o Goleg Llandrillo gystadleuaeth cymysgu diodydd yr International Salon Culinaire gyda choctels a ysbrydolwyd gan ei phlentyndod yn Wcráin a’r croeso a gafodd yng Nghymru
Enillodd Yuliia Batrak sy'n fyfyrwraig yng Ngholeg Llandrillo bedair medal aur mewn cystadleuaeth goginio bwysig – ar ôl defnyddio wisgi Penderyn yn ddyfeisgar i greu rysáit munud olaf ar gyfer coctel.
Yn gynharach yr wythnos hon, aeth Yuliia i Lundain i gystadlu yn yr International Salon Culinaire, sy'n denu cogyddion talentog o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Cymerodd y ferch 19 oed ran mewn pedair cystadleuaeth gwasanaethau bwyty yn yr ExCeL yn Llundain, gan ennill pob un ohonynt.
Ond ei gallu i gymysgu diodydd a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid, wrth iddi greu un coctel oedd yn dwyn i gof ei phlentyndod yn Wcráin, ac un arall a ysbrydolwyd gan y croeso a gafodd ers symud i Gymru.
Roedd Yuliia wedi treulio wythnosau yn perffeithio ei spritz blodau ceirios, a ysbrydolwyd gan ei chartref yn Kyiv lle’r oedd ei theulu’n tyfu ceirios cyn yr ymosodiad gan Rwsia yn 2022.
Ond ychydig oriau cyn iddi adael am Lundain, cafodd Yuliia wybod y byddai'n rhaid iddi greu ail goctel. Roedd angen ysbrydoliaeth arni ar unwaith – a dyma feddwl am wisgi Penderyn.
“Ro'n i’n pacio fy nghês y noson cyn y gystadleuaeth, a dyma ddarn o bapur yn disgyn o fy llyfr nodiadau gyda gwybodaeth ychwanegol am y dasg cymysgu diodydd,” meddai Yuliia.
“Darllenais yr wybodaeth eto, a gweld y print mân ar y diwedd oedd yn dweud bod rhaid i mi baratoi dau goctel gwahanol, yn hytrach na dau wydraid o'r un coctel.
“Ro’n i wedi creu’r rysáit, yr hanes a phopeth ar gyfer un coctel yn unig, ac roedd gen i’r cynhwysion i gyd wedi’u mesur ac yn barod i fynd. Roedd yn hanner nos ac roedd rhaid i mi adael am Lundain yn gynnar yn y bore.”
Yn ffodus, roedd Yuliia wedi pacio potel o Penderyn Madeira Finish i'w ddefnyddio yn y gystadleuaeth flambé – lle byddai'n rhoi blas cartref i'w Crêpes Suzette trwy ddefnyddio wisgi Cymreig yn lle brandi.
Gan feddwl yn gyflym anfonodd Yuliia neges destun at ei thiwtor Mike Garner, darlithydd lletygarwch ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, a chafodd y ddau'r un syniad.
“Ro'n i wedi penderfynu gwneud crêpe flambé gan ddefnyddio wisgi Cymreig i adlewyrchu'r ffaith mai Cymru yw fy ail gartref bellach,” meddai Yuliia, sy’n byw ym Mae Colwyn. “Felly roedd gen i botel o Benderyn yn fy nghit, ac fe benderfynon ni wneud wisgi ceirios sur ar gyfer yr ail goctel.”
Ymchwiliodd Yuliia i’w choctel tra oedd yn cael ei gyrru i Lundain, gan anfon neges destun am gyngor at un o weinyddwyr bar Gwesty’r St George’s yn Llandudno, lle mae hi'n gweithio yn ystod ei hamser rhydd o’r coleg.
Prynodd gynhwysion ychwanegol ar ei ffordd i'r gwesty lle'r oedd hi'n aros yn Llundain. Fe wnaeth staff y gwesty hyd yn oed adael iddi ddefnyddio cyfleusterau'r bar ar gyfer ymarfer cyn y gystadleuaeth.
“Roedd yn lwcus iawn bod gen i'r wisgi Penderyn!” meddai Yuliia, ac fe wnaeth ei diodydd argraff fawr ar y beirniaid yn yr ExCeL.
“Mi weithiodd popeth yn dda iawn yn y diwedd oherwydd roedd y beirniaid wrth eu bodd, ac yn hoffi'r syniad yn fawr. Roedd un o’r beirniaid eisiau gorffen y wisgi sur oherwydd ei fod yn cael cymaint o flas arno!”
Enillodd coctels Yuliia wobr aur, ac felly hefyd ei flambé a ysbrydolwyd gan wisgi Cymreig. Nid un llwyddiant yn unig a gafodd, gan iddi hefyd ennill medalau aur yn y gystadleuaeth gosod bwrdd a'r her salad Cesar.
Gan fod y medalau’n cael eu dyfarnu ar sail y pwyntiau a sgoriwyd, Yuliia oedd yr unig gystadleuydd i gyrraedd y safon aur yn unrhyw un o’r pedair cystadleuaeth, gan wneud ei llwyddiant yn fwy rhyfeddol fyth.
“Ro'n i wrth fy modd,” meddai. “Pan glywch chi eich enw yn cael ei alw fel enillydd medal aur mae’n un o’r teimladau gorau erioed, oherwydd mae’r holl waith caled wedi talu ar ei ganfed. Rydych chi'n gwneud yr holl waith ar gyfer yr eiliad yna, ac yn sydyn mae'n digwydd.”
Dywedodd Rich Edwards, Rheolwr Distyllfa Penderyn Llandudno: “Llongyfarchiadau i Yuliia ar ennill pedair medal aur gan bawb yma yn Nistyllfa Penderyn Llandudno.
“Rydym wedi cefnogi adran arlwyo Coleg Llandrillo ers i ni agor yma yn 2021 ac wedi gweld arddangosiadau arlwyo Yuliia mewn digwyddiadau eraill hefyd. Dyma enghraifft wych arall o safon broffesiynol y bobl ifanc sy'n dod o Goleg Llandrillo bob blwyddyn. Iechyd da!”
Diolchodd Yuliia i'w thiwtoriaid yng Ngholeg Llandrillo, lle mae'n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd.
Meddai: “Dw i'n ddiolchgar iawn i'r holl athrawon yng Ngholeg Llandrillo sydd wedi fy helpu i baratoi at y gystadleuaeth hon. Cymerodd lawer o oriau pan ddylwn i fod wedi bod yn y gegin ac roedd yn rhaid i mi ddod i flaen y tŷ i ymarfer, felly mae'r tiwtoriaid wedi bod yn ystyriol a chefnogol iawn.
“Rydw i'n arbennig o ddiolchgar i Mike Garner gan ei fod wedi rhoi llawer o’i amser rhydd i’m helpu i drefnu popeth. Roedd yn ymdrech fawr gan y tîm i gyd.”
Dywedodd Mike: “Rydyn ni'n wirioneddol falch o Yuliia, mae hi'n seren go iawn. Mae hi wedi bod yn hyfforddi at y gystadleuaeth hon ers cyn y Nadolig, gan weithio'n galed am oriau lawer. Mae ei hymdrech a'i phenderfyniad wedi talu ar ei ganfed, ac mae hi'n haeddu pob clod. Mae hi’n dalentog iawn ond ar ben hynny, mae ganddi hi hefyd y dyfalbarhad a'r agwedd iawn i lwyddo.”
Mae Yuliia bellach yn paratoi ar gyfer WorldSkills 2026 yn Shanghai, ar ôl cael ei dewis i fod yn rhan o garfan hyfforddi Gwasanaethau Bwyty'r Deyrnas Unedig. Mae'r garfan yn cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau hyfforddi, ac wedi hynny dim ond un cystadleuydd fydd yn cael ei ddewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn Tsieina.
Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant lletygarwch? Mae maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau llawn a rhan-amser o Lefel 1 i Raddau Anrhydedd, yn ogystal â phrentisiaethau, NVQs a hyfforddiant wedi'i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant.