Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Yuliia yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio fyd-eang yn Llundain

Bydd y fyfyrwraig o Goleg Llandrillo yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr International Salon Culinaire wrth iddi geisio sicrhau ei lle yn nhîm y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills 2026 yn Shanghai

Bydd y fyfyrwraig o Goleg Llandrillo, Yuliia Batrak, yn cystadlu yn yr International Salon Culinaire, un o'r cystadlaethau coginio uchaf ei pharch y byd.

Mae Yuliia, o Fae Colwyn, yn dilyn cwrs Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae’n gobeithio cynrychioli’r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth gwasanaethau bwyty WorldSkills 2026 yn Shanghai, ar ôl cael ei dewis i fod yn rhan o'r garfan hyfforddi genedlaethol sy’n paratoi ar gyfer y digwyddiad.

Ddydd Llun, bydd Yuliia cystadlu yn erbyn rhai o fyfyrwyr gwasanaethau bwyty gorau'r Deyrnas Unedig a thu hwnt yn yr International Salon Culinaire sy'n cael ei chynnal yng nghanolfan ExCel, Llundain.

Bydd y ferch 19 oed yn cystadlu mewn pedair cystadleuaeth – gosod bwrdd, cymysgu coctels, flambé a'r her salad Cesar.

Mae hi wedi dyfeisio ei choctel ei hun ar gyfer y gystadleuaeth gymysgu, gyda blasau sy'n ei hatgoffa o gartref ei theulu yn Kyiv, Wcráin.

Meddai Yuliia: “Doedd dim rhaid i mi greu fy niod fy hun ar gyfer y gystadleuaeth, ond mi wnes i benderfynu gwneud hynny er mwyn cael rhywbeth oedd yn fy nghynrychioli i fel person ac fel cystadleuydd.

“Rydw i am greu spritz blodau ceirios gyda fodca fanila, gwirod ceirios, gwirod Kirsch a prosecco, a'i addurno gyda sbrigyn o flodau ceirios.

“Bydd y blodau ceirios yn cynrychioli’r gwanwyn, ac maen nhw hefyd yn fy atgoffa o'm cartref oherwydd roedden ni'n tyfu llawer o geirios, ac rydw i am egluro ychydig o'r hanes hwn i’r beirniaid.”

Yr International Salon Culinaire yw un o gystadlaethau coginio mwyaf y wlad, ac mae'n rhan o Wythnos Bwyd, Diod a Lletygarwch yr ExCeL. Mae’n cynnwys cystadlaethau ar bob lefel, o fyfyrwyr a phrentisiaid i weithwyr proffesiynol profiadol, ac wrth iddi baratoi ar gyfer WorldSkills, bydd yn rhoi profiad amhrisiadwy i Yuliia o gystadlu ar lefel uchel.

Meddai Yuliia: "Mae'r cystadlaethau'n cael eu cynnal mewn pabell anferth sy'n agored i'r cyhoedd. Bydd miloedd o bobl yno, felly mae'n gyfle da i gystadlu dan bwysau ac i weld sut brofiad fydd cymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol yn Shanghai y flwyddyn nesa. Gobeithio y bydda i'n dod ag ychydig o fedalau aur yn ôl!”

⁠Yn gynharach y mis hwn, cymerodd Yuliia ran mewn cystadleuaeth i hyfforddi ar gyfer WorldSkills UK ym mwyty Orme View yng Ngholeg Llandrillo.

⁠Dan arweiniad rheolwyr hyfforddi WorldSkills UK, Pauline Dale a Dr Shyam Patiar – y ddau yn gyn-reolwyr lletygarwch yn y coleg – treuliodd hi a gweddill y garfan gwasanaethau bwyty bum niwrnod yn hogi eu sgiliau ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.

Cymerodd y garfan ran mewn ffug gystadlaethau oedd yn efelychu'r tasgau a wynebir ganddynt os cânt eu dewis i fynd i Shanghai.

Dros y 18 mis nesaf, fe fyddan nhw’n cael eu profi mewn cyfres o sesiynau tebyg cyn y bydd un cystadleuydd yn cael ei ddewis i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn Tsieina.

Meddai Yuliia: “Mi wnaethon ni weini prydau cain, gwleddoedd a phrydau hamddenol, yn ogystal â pharatoi gwahanol fathau o goffi a choctels – pob math o bethau a dweud y gwir.

“Roedd yn rhaid canolbwyntio. Roedd dau gystadleuydd arall o golegau eraill, a dim ond un ohonon ni fydd yn cael cynrychioli'r Deyrnas Unedig yn Shanghai 2026. Does ryfedd ’mod i wedi cyffroi'n lân ar hyn o bryd.”

Cafodd Yuliia ei dewis i’r garfan ar ôl ennill medal aur yn rownd derfynol genedlaethol y categori Gwasanaethau Bwyty yn 2023.

Meddai: “Mae'r profiad wedi newid fy mywyd oherwydd mae'r gwahanol bethau rydych hi'n cael eich hyfforddi ar eu cyfer yn anhygoel. Wrth gymryd rhan yn y math yma o gystadleuaeth rydych chi'n cael pob math o gyfleoedd ar gyfer eich dyfodol, ac mae'n ddechrau ardderchog i'ch gyrfa.

“Rydw i wedi cael tiwtoriaid anhygoel ac aelodau staff cefnogol iawn yng Ngholeg Llandrillo. Maen nhw wedi fy helpu i hyfforddi a chael trefn ar bopeth, ac rydw i'n ddiolchgar iawn iddyn nhw."

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant lletygarwch? Mae maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau llawn amser a rhan-amser, o Lefel 1 hyd at Raddau Anrhydedd, yn ogystal â phrentisiaethau, cymwysterau NVQ a hyfforddiant wedi'i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date