Zac yn ymuno â phencampwyr rygbi UDA - Wheeling Cardinals
Mae'r asgellwr yn dweud fod astudio yn academi rygbi Coleg Llandrillo wedi ei helpu i baratoi ar gyfer hyfforddi gyda thîm y coleg sydd wedi ennill y Bencampwriaeth Genedlaethol
Mae Zac Hay yn paratoi i chwarae ei gêm rygbi gyntaf yn yr Unol Daleithiau ar ôl cwblhau ei astudiaethau yng Ngholeg Llandrillo'r haf hwn.
Mae’r chwaraewr 18 oed bellach ym Mhrifysgol Wheeling yn West Virginia, a bydd yn chwarae i’w tîm The Cardinals, sydd wedi ennill y Bencampwriaeth Genedlaethol.
Derbyniodd Zac ysgoloriaeth rygbi yn Wheeling, ble mae'n dilyn cwrs gradd mewn Gwyddor Chwaraeon.
Treuliodd y ddwy flynedd flaenorol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo, yn dilyn cwrs Chwaraeon Lefel 3 (Perfformio a Rhagoriaeth). Roedd Zac hefyd yn chwarae i dîm academi rygbi Llandrillo, ac roedd hynny o gymorth i'w baratoi i fyw fel athletwr mewn prifysgol.
“Rhoddodd y coleg flas i mi o fod mewn academi,” meddai Zac oedd hefyd yn chwarae i Glwb Rygbi Bae Colwyn a’i gyn ysgol Rydal Penrhos.
“Pan oeddwn i’n chwarae i Fae Colwyn roedden ni’n dîm da, yn hyfforddi’n galed ac yn ymroi'n llwyr, ond doedd o ddim fel academi. Roedden ni'n hyfforddi unwaith yr wythnos ac yn chwarae gêm ar ddydd Sul.
"Ond pwrpas academi ydy gwella eich rygbi ac roedd hi felly yn y coleg.
"Roedden ni’n hyfforddi tair neu bedair gwaith yr wythnos, yn cael sesiynau cryfder a chyflyru – fe wnaeth fy nghyflwyno i’r math yna o amgylchedd a rhoi blas i mi o sut beth yw’r ffordd honno o fyw. Mi ges i brofiad fel chwaraewr rygbi a chipolwg o'r hyn sydd i'w ddisgwyl mewn academi chwaraeon."
Mae Zac a’i gyd-chwaraewyr o dîm y Cardinals bellach yn hyfforddi er mwyn amddiffyn eu teitl fel pencampwyr, a bydd y gêm gyntaf ar 21 Medi.
Mae hanes cyn-fyfyriwr o goleg Wheeling, Aaron Juma, yn ysbrydoliaeth iddynt. Mae Aaron wedi ymuno â thîm proffesiynol Old Glory DC ar ôl chwarae dros The Cardinals y tymor diwethaf.
Hoffai Zac sefydlu cwmni yn cynnig hyfforddiant personol ar ôl gorffen ei gwrs, yn gweithio gyda chwaraewyr rygbi yn Dubai, lle'r oedd yn arfer byw. Ond yn gyntaf mae'n barod i hyfforddi'n galed a gweld pa mor bell y gall y gamp fynd ag o yn yr Unol Daleithiau.
"Dyma'r profiad rygbi gorau erioed i mi," meddai “Mae f'agwedd at rygbi wedi newid yn llwyr ers i mi ddod yma. Roeddwn i eisiau astudio dramor, a drwy rygbi mi lwyddais i wneud hynny, a thrwy hyfforddi bob dydd, mae f'agwedd wedi newid a dw i eisiau canolbwyntio ar rygbi o ddifri rŵan.
Hoffwn i chwarae’n broffesiynol, ond mae’n anodd. Mae lefel y rygbi yma yn uwch na'r disgwyl. Mae hynny oherwydd yr holl chwaraewyr rhyngwladol sydd yma - dim ond 3 chwaraewr o UDA sydd ar y tîm. Daw'r lleill o Dde Affrica, Zimbabwe, Lloegr, Moroco, Canada a minnau o Gymru.
Mae'r bois o Zimbabwe yn enfawr, yn gyflym, yn ffit ac yn gorfforol. Mae'r bois o Dde Affrica yn amlwg yn byw a bod rygbi. Felly mae'n gêm wahanol, mae'n llawer mwy corfforol.
Dydw i erioed wedi gweld tîm gyda chymaint o egni. Roeddwn i'n teimlo fy mod i yn adnabod yr hogiau ers blynyddoedd ar ôl dim ond pythefnos yn eu cwmni - dan ni fel un teulu mawr.
Mae’r tîm saith bob ochr yma hefyd yn wych, un o’r timau saith bob ochr cryfaf yn y wlad gyfan. Mi wnaethon nhw gystadlu yn Tampa Tropical Sevens ac ennill pob gêm - mae'r bois yma'n arbennig.”
Wrth gwrs, mae'n rhaid i Zac gwblhau gwaith ei waith cwrs er mwyn chwarae, ac roedd astudio yn Llandrillo wedi ei baratoi ar gyfer y disgwyliad hwnnw.
“Dw i'n llawer mwy annibynnol, diolch i'r coleg”, meddai. “Mi wnes i ddysgu llawer o sgiliau rheoli amser, sgiliau paratoi, a sut i fod yn drefnus.
Rhaid i chi fynd i'ch gwersi a chwblhau eich aseiniadau - os na wnewch chi, chewch chi ddim chwarae rygbi. Rydych chi yma i astudio a'r gwaith academaidd sy'n cael blaenoriaeth.
Rhaid i mi godi ar amser, gorffen fy ngwaith cartref a gwneud yn siŵr bod y cit yn barod ar gyfer rygbi. Mae'r coleg wedi gwneud gwaith gwych yn fy mharatoi i fod yn barod i wynebu hynny.
Hefyd mae'r holl wybodaeth ddysgais i ar y cwrs yn bwydo i mewn i'r hyn dw i'n ei wneud yma. Mae wedi rhoi mantais i mi dros rai o'm cyd-fyfyrwyr. Er enghraifft, mi wnes i astudio anatomeg a seicoleg yn y coleg. Dw i'n astudio anatomeg rŵan ac mi fydda i'n astudio seicoleg yn fy ail flwyddyn, a dw i'n teimlo bod y cwrs yn y coleg wedi bod o gymorth.”
Mae Zac yn ddiolchgar i'r darlithydd Rhodri Davies, ei diwtor personol yn Llandrillo, am ei helpu i wneud y mwyaf o'i gyfleoedd.
Dywedodd: “Mae Rhodri yn foi anhygoel. Mae'n mynd allan o'i ffordd i wneud yn siŵr eich bod chi'n cyrraedd y brifysgol, a bydd yn gwneud unrhyw beth i'ch helpu i wireddu'ch breuddwydion. Dydw i erioed wedi cael athro tebyg iddo o'r blaen - fy hoff athro am byth. Mi ges i ddwy flynedd wych yn y coleg - dwy o flynyddoedd gorau fy mywyd.”
Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i'r coleg! Mae llefydd ar gael o hyd ar gyrsiau llawn amser. Ewch i gllm.ac.uk/cy/courses i wybod mwy