Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion

Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf

Brooke Williams yn steilio gwallt ei model yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol

Brooke a Kayleigh yn ennill rownd derfynol y Deyrnas Unedig mewn cystadleuaeth trin gwallt bwysig

Enillodd Brooke Williams, myfyrwraig o Goleg Menai, a Kayleigh Blears, dysgwr o Goleg Llandrillo, anrhydeddau cenedlaethol gyda'u steiliau gwallt ar thema stori dylwyth teg yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol

Dewch i wybod mwy
Kevin Jones, briciwr a phlastrwr, yn siarad â dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor yng nghanolfan adeiladu a pheirianneg CaMDA

Busnesau adeiladu yn helpu myfyrwyr CaMDA i adeiladu'u gwybodaeth am y diwydiant

Daeth Dafydd Jones, technolegydd pensaernïol o benseiri Russell Hughes, a Kevin Jones, briciwr a phlastrwr o Adeiladwyr D+S Jones, i ymweld â dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau

Dewch i wybod mwy
Swyddfa newydd Busnes@LlandrilloMenai ym Marc Busnes Llanelwy

Cyfle Cyffrous Newydd i Fusnesau!

Y Pasg hwn, bydd Busnes@LlandrilloMenai yn lansio ei ganolfan hyfforddi newydd ym Mharc Busnes Llanelwy. Trwy gynnig cymysgedd dynamig o hyfforddiant masnachol a datblygu sefydliadol, mae'r lleoliad wedi'i gynllunio i helpu busnesau i Dyfu, Dysgu, a Llwyddo.

Peidiwch â cholli'r cyfle i hybu eich tîm ac i ysgogi llwyddiant – ymunwch â ni i ryddhau potensial llawn eich busnes heddiw!

Dewch i wybod mwy
Madeleine Warburton yn gwisgo cit hyfforddi ‘Squad UK’ WorldSkills UK

Evan, Madeleine ac Yuliia yn rhan o Garfan y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills 2026

Rŵan mae'r tri dysgwr o Grŵp Llandrillo Menai'n wynebu 18 mis o hyfforddi dwys wrth iddyn nhw ymdrechu i gael eu dewis i fod yn rhan o'r tîm fydd yn cystadlu ar brif lwyfan y byd yn Shanghai

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr Coleg Menai yn barod i fwynhau pryd bwyd ym marchnadoedd Cologne yn yr Almaen

Myfyrwyr yn dysgu am dwristiaeth, bwyd a diwylliant ar drip i Cologne

Ymwelodd dysgwyr y cwrs Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth â marchnadoedd ac atyniadau enwog eraill y ddinas gan gael ‘profiad anhygoel a oedd yn agoriad llygad’

Dewch i wybod mwy
Dysgwyr y rhaglen Interniaeth a Gefnogir yn Asda Llandudno yn gyda baner yn hyrwyddo Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau a Gefnogir

Enwebu Tîm Interniaeth a Gefnogir Coleg Llandrillo ac Asda am wobr 'Dewis y Bobl'

Cynhelir cystadleuaeth Dewis y Bobl DFN Project SEARCH bob blwyddyn i nodi Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir (27 Mawrth)

Dewch i wybod mwy
Tu allan i Coleg Llandrillo

Golau Gwyrdd i Brosiect Arloesol gwerth £19m fydd yn Diogelu Sector Twristiaeth Gogledd Cymru at y Dyfodol

Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Grŵp Llandrillo Menai wedi arwyddo cytundeb cyllid gwerth £4.43m a fydd yn datgloi buddsoddiad o £19m mewn hyfforddiant a chyfleusterau trosglwyddo gwybodaeth o safon fyd-eang ar draws pum lleoliad yng Ngogledd Cymru.

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor gyda char Toyota Corolla hybrid yn ffatri Toyota yng Nghlannau Dyfrdwy

Ymweld â ffatri Toyota yn tanio awydd myfyrwyr peirianneg tanwydd i lwyddo

Aeth dysgwyr Peirianneg Lefel 3 o Goleg Meirion-Dwyfor i ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy i weld drostynt eu hunain sut mae’r injan hybrid pumed cenhedlaeth yn cael ei hadeiladu

Dewch i wybod mwy
Aelodau o Glwstwr Agri-Tech Cymru yn gwylio arddangosiad o’r AgBot, tractor cwbl awtonomaidd, yng Nglynllifon

Glynllifon yn arddangos dyfeisiau newydd arloesol Agri-Tech

Partneriaid Clwstwr Agri-Tech Cymru yn ymweld â’r campws i ddysgu rhagor am ddatblygiadau technolegol a allai fod o fudd i’r sector amaethyddol

Dewch i wybod mwy
Yuliia Batrak o Goleg Llandrillo gyda'r pedair medal aur a enillodd yn yr International Salon Culinaire

Yuliia yn ennill pedair medal aur mewn cystadleuaeth goginio o fri

Ysgydwodd y fyfyrwraig o Goleg Llandrillo gystadleuaeth cymysgu diodydd yr International Salon Culinaire gyda choctels a ysbrydolwyd gan ei phlentyndod yn Wcráin a’r croeso a gafodd yng Nghymru

Dewch i wybod mwy

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date