Pennaeth hyfforddi dyfarnwyr yr Uwch Gynghrair i arwain y seminar nesaf yn y gyfres Perfformio i'r Eithaf
Ddydd Iau yng Ngholeg Llandrillo bydd Neil Cottrill, cyn-chwaraewr badminton proffesiynol sydd â 30 mlynedd o brofiad hyfforddi, yn siarad am yr heriau a wynebir gan swyddogion gemau elît
Neil Cottrill, pennaeth hyfforddi dyfarnwyr yr Uwch Gynghrair a chyn-chwaraewr badminton rhyngwladol, fydd yn arwain y seminar Perfformio i'r Eithaf nesaf yng Ngholeg Llandrillo.
Bydd ‘Gwneud Penderfyniadau Dan Bwysau mewn Chwaraeon: Cefnogi Llesiant Swyddogion Gemau’ yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ddydd Iau yma (Mawrth 6) am 6pm.
Pennaeth hyfforddi a datblygu PGMOL (Professional Game Match Officials Limited) yw Neil ac ef sy'n arwain y gwaith o gefnogi a datblygu hyfforddwyr sy’n gweithio gyda swyddogion gemau'r Uwch Gynghrair, Cynghrair Pêl-droed Lloegr ac Uwch Gynghrair y Merched.
Dechreuodd ar ei yrfa ym myd chwaraeon fel chwaraewr badminton proffesiynol, gan gystadlu ar gylchdaith Grand Prix y Byd, cyrraedd y deuddegfed safle yn y byd yn nyblau’r dynion, a chynrychioli Lloegr yn rhyngwladol.
Pennaeth hyfforddi a datblygu PGMOL (Professional Game Match Officials Limited) yw Neil ac ef sy'n arwain y gwaith o gefnogi a datblygu hyfforddwyr sy’n gweithio gyda swyddogion gemau'r Uwch Gynghrair, Cynghrair Pêl-droed Lloegr ac Uwch Gynghrair y Merched.
Dechreuodd ar ei yrfa ym myd chwaraeon fel chwaraewr badminton proffesiynol, gan gystadlu ar gylchdaith Grand Prix y Byd, cyrraedd y deuddegfed safle yn y byd yn nyblau’r dynion, a chynrychioli Lloegr yn rhyngwladol.
Yna gweithiodd Neil am 10 mlynedd fel darlithydd gwyddor chwaraeon, a bu’n arweinydd rhaglen graddau Sylfaen a BSc mewn Hyfforddi Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yng Ngholeg Llandrillo.
Symudodd wedyn i fod yn bennaeth hyfforddiant ac addysg i Badminton England, gan drawsnewid y dull o addysgu hyfforddwyr. Yn dilyn Gemau Olympaidd Rio de Janeiro yn 2016, symudodd i PGMOL i arwain y gwaith o gefnogi a datblygu'r hyfforddwyr sy'n gweithio gyda phrif swyddogion gemau'r wlad.
Ef hefyd ef yw arholwr arweiniol Pearson, y darparwr hyfforddiant cenedlaethol, ar gyfer gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, ac mae’n rhedeg ei ymgynghoriaeth maeth a ffitrwydd ei hun, Cottrill Sport Services.
Yn y seminar ddydd Iau, bydd Neil yn sôn am yr heriau y mae swyddogion gemau pêl-droed yn eu hwynebu, a sut maen nhw'n cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau dan bwysau mewn gemau elît.
Meddai Neil: “Mae cadw trefn mewn gemau elît yn allweddol i lwyddiant pêl-droed proffesiynol. Mae PGMOL yn gweithio yn y cefndir, i gefnogi datblygiad swyddogion gemau. Mae hyn yn cynnwys datblygu gallu corfforol, sgiliau seicolegol, a dealltwriaeth dactegol a thechnegol o’r gêm.”
Wrth siarad am ei seminar, dywedodd: “Bwriad y sesiwn yw edrych ar sut rydym yn cefnogi perfformwyr elît yng nghyd-destun swyddogion gemau. Byddwn yn edrych yn benodol ar yr heriau y mae swyddogion gemau pêl-droed elît yn eu hwynebu, yn ogystal â’r systemau sydd ar gael i gefnogi swyddogion gemau.”
Seminar Neil yw’r drydedd yn y gyfres ‘Perfformio i'r Eithaf’, sy’n cynnwys siaradwyr gwadd amrywiol sydd wedi gwneud eu marc mewn chwaraeon elît.
Dechreuodd y gyfres ym mis Ionawr gyda’r triathletwr Sean Conway yn sôn am sut y cyflawnodd y ‘Gamp Lawn’ o recordiau byd mewn chwaraeon dygnwch. Y mis diwethaf, arweiniodd Sam Downey, hyfforddwr perfformiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru a darlithydd yng Ngholeg Llandrillo sesiwn ar ei ymchwil i flinder meddwl mewn chwaraeon.
Bydd siaradwyr gwadd y dyfodol yn cynnwys Felicity Devey, maethegydd ym maes chwaraeon elît ac ymarfer corff gyda Chwaraeon Cymru, Matthew Williams, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo a hyfforddwyr gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac Alex Marshall-Wilson, sydd wedi chwarae pêl fasged cadair olwyn i dîm Prydain. Mae tocynnau i bob seminar yn costio £5.
Bydd ‘Gwneud Penderfyniadau Dan Bwysau mewn Chwaraeon: Cefnogi Llesiant Swyddogion Gemau’ yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ddydd Iau yma (Mawrth 6) am 6pm. I archebu eich lle, ewch i: gllm.ac.uk/cy/peak-performance