Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Taith arbennig i Japan

Aeth myfyrwyr o adran Trin Gwallt, Coleg Menai, ar ymweliad â Tokyo a Nagoya i ddysgu am ddiwylliant Japan a diwydiant gwallt a harddwch y wlad

Aeth dysgwyr o Goleg Menai ar daith arbennig iawn i ddysgu am y diwydiant gwallt a harddwch yn Japan.

Treuliodd myfyrwyr cyrsiau Lefel 3 mewn Trin Gwallt wythnos yn Tokyo ac wythnos yn Nagoya yn ymweld â cholegau a sefydliadau hyfforddi eraill yn dysgu am y sector yn Japan. ⁠

Roedd eu tiwtor, Awena Williams yno gyda nhw ynghyd â Cath Skipp, rheolwr maes rhaglen Coleg Menai ar gyfer diwydiannau gwasanaeth a busnes, ac Andy Brookes, swyddog rhyngwladol Grŵp Llandrillo Menai.

Ariannwyd y daith gan gynllun Turing trwy Colegau Cymru a Seyfert, cwmni hyfforddiant o Japan. Roedd hynny'n golygu nad oedd gofyn i'r myfyrwyr dalu ceiniog am deithio, am eu bwyd na'u llety.

Ar ôl cyrraedd Tokyo, cafodd y dysgwyr ddau ddiwrnod cynefino i ddysgu am iaith, diwylliant ac arferion y wlad.

Yn ystod eu hwythnos yn y brifddinas, aeth y myfyrwyr i Tokyo Beauty and Bridal College i weithio gyda dysgwyr o Japan a defnyddio clustffonau rhith-realiti i ymarfer eu technegau.

Aeth y myfyrwyr i salon boutique, i wylio arddangosiad o wahanol dechnegau cyffredin a ddefnyddir yn Japan, ac i wrando ar gyflwyniad gan gyfanwerthwr oedd yn gwerthu cynnyrch gwallt.

Yna aeth y myfyrwyr ar daith i Kinujo, gwneuthurwr sychwyr a sythwyr gwallt, i wylio arddangosiad gan steilydd enwog o Tokyo ac ymarfer gyda chynnyrch sydd eto i'w lansio yn y DU.

Ar ôl wythnos gyntaf llawn gweithgareddau, cafodd y myfyrwyr gyfle i grwydro ar y dydd Sadwrn ac aethant i Rappongi Hills ble ceir golygfeydd godidog o un o adeiladau talaf Tokyo, Tŵr Mori sy'n 330 metr o uchder.

Yna ar y dydd Sul, teithiodd y grŵp ar drên bwled ar hyd arfordir Japan i Nagoya, pedwaredd ddinas fwyaf y wlad, a'u canolfan yn ystod ail wythnos y daith.

Treuliodd y myfyrwyr rai dyddiau Nagoya Beauty College yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn cynnwys celf ewinedd a sesiynau celf corff, ac yna aeth y criw ar daith i Kyoto i ddysgu am y Geisha.

Cafodd y myfyrwyr gyfle i ymweld hefyd â Sw Higashiyama, lleoliad priodas poblogaidd, a'r Gerddi Botaneg, a gwylio priodas foethus ffug yno er mwyn gweld y gwaith sy'n mynd i'r gwallt a'r colur ar gyfer seremoni draddodiadol Japaneaidd.

Mi oedd y dysgwyr wrth eu boddau ar y daith, dywedodd Ffion Newell: "Mi ddysgais i lawer iawn yn ystod y pythefnos. Uchafbwynt y daith i mi oedd ymweld â'r salonau a'r colegau a dysgu am eu sgiliau a'u technegau trin gwallt.

"Mae Japan yn wlad mor brydferth. Mi wnes i fwynhau siarad gyda phobl yno a dysgu am eu diwylliant, a manteisio ar y profiadau newydd. Roedd hi'n fraint i gael y cyfle i ymweld â Japan a dysgu cymaint am y wlad.”

Dywedodd Elan Rayner: “Yr uchafbwynt i mi oedd y cyfle i weld diwylliant gwahanol. Mae rheolau gwahanol yno ac maen nhw'n eu dilyn yn gaeth, roedd hynny'n agoriad llygad.

"Roedd eu technoleg fodern yn anhygoel. Mi wnes i ddysgu ffordd wahanol o olchi a chwythsychu gwallt i gyd-fynd ag anghenion gwallt yn Japan. Mae mynd i'r salon trin gwallt Japan yn brofiad sy'n ymlacio cleient. Mae eu technegau pyrmio yn wahanol iawn i'n rhai ni, ac yn llawer anoddach. Mi fydda i'n ymweld eto â Japan, dw i'n siŵr o hynny.”

Dywedodd Alice B: "Dw i wedi newid fy meddwl yn llwyr am ystyr y gair harddwch a beth mae'n golygu. Mi wnaeth y daith ehangu fy ngorwelion, a dangos diwylliant gwahanol i mi, ac mi fydd hynny o help i mi wrth drin gwallt. Mi hoffwn i fynd yn ôl i Japan rhyw ddydd!"

Dywedodd Andy Brookes, y swyddog rhyngwladol: "Mae'r tîm yn falch iawn o sut aeth pethau ar y daith, i'n myfyrwyr ac i'r staff. Hoffem ddiolch i staff Seyfert am brofiad cofiadwy.

"Cafodd y myfyrwyr gyfle i brofi diwylliant cwbl wahanol a ffordd cwbl wahanol o weithio sy'n berthnasol i'w cwrs yn y coleg. ⁠Mi wnaethon ni gyfarfod nifer o fyfyrwyr ac athrawon o Japan a gweld nifer o agweddau gwahanol o ddiwylliant Japan. Dw i'n siŵr bydd atgofion am y daith yn aros gyda ni am byth."

Hoffech chi weithio yn y diwydiant gwallt a harddwch? Mae gan Grŵp Llandrillo Menai amrywiaeth o gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi ragori yn y maes deinamig hwn. Dysgwch ragor yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date