Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Seremoni wobrwyo i ddathlu ymrwymiad staff Grŵp Llandrillo Menai i’r Gymraeg

Cafodd enillwyr Gwobrau Cymraeg Grŵp Llandrillo Menai 2024/25 eu dathlu mewn seremoni wobrwyo yn ddiweddar.

Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod ymdrechion staff sydd wedi dangos ymrwymiad i ddysgu Cymraeg, i loywi eu sgiliau iaith a chynnwys yr iaith yn eu gwaith bob dydd.

Bob blwyddyn, mae criw dethol o staff hefyd yn cael eu henwi'n 'Bencampwyr Cymraeg y Flwyddyn' - sy'n cydnabod eu hymroddiad i gefnogi eraill gyda'r Gymraeg a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig o fewn adrannau.

Enwebir yr aelodau staff gan eu rheolwyr, gyda phanel wedyn yn dewis yr enillwyr.

Cadeirydd y panel oedd Gwenllian Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygiadau Masnachol, ac roedd yn cynnwys Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai; Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau: Meggan Prys, Mentor Datblygiad Proffesiynol; a Siân Pritchard, Rheolwr Sgiliaith, Datblygu Dwyieithrwydd a Chydraddoldeb.

Dysgwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn - Rheolwyr

Zoe Fox, Rheolwr y Prosiect Llesiant

Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

⁠Pencampwr Cymraeg y Flwyddyn

Gwyn-Arfon Williams, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith

Rhodri Davies, Darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Andrew Williams, Darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus

Rhys Wyn Parry, Darlithydd Celfyddydau Creadigol

Dylan Owen, Darlithydd Sgiliau

Staff Addysgu

Rule Khasawneh, Darlithydd ESOL

Arfon Roberts, Darlithydd Peirianneg

Lauren Thomas, Darlithydd Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Rebecca King - Darlithydd Diwydiannau Tir

Emma McMillan - Darlithydd ym maes Rheoli

Categori Aseswyr Dysgu Seiliedig ar Waith

Elizabeth Wainwright

Staff Cefnogi

Bev Johns, Cynorthwyydd Gweinyddol Lleoliad Gwaith

Heather Evans, Cynorthwyydd Systemau Gwybodaeth

Cafodd yr enillwyr eu gwobrwyo mewn seremoni ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, a'u llongyfarch gan Gwenllian Roberts. Cyflwynodd dystysgrif mewn ffrâm i bob enillydd ynghyd â mwg â'r gair 'Diolch' arno o siop Adra, Parc Glynllifon, a bar o siocled Melin Llynon, Ynys Môn.

Dywedodd Gwenllian: “Mae’n bleser bod yn rhan o’r broses wobrwyo. Rydym ni fel Grŵp yn ymfalchïo yn ymdrechion ac ymroddiad ein staff i ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg ar lefel ymarferol.

"Fel y prif ddarparwr cyrsiau dwyieithog ym maes Addysg Bellach yng Nghymru, mae heddiw'n gyfle nid yn unig i ddathlu ymdrechion ein staff arbennig ond hefyd i dynnu sylw at ein hymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg, drwy sicrhau bod gan ein dysgwyr y sgiliau a'r hyder i ddefnyddio'n Gymraeg ym mhob agwedd o'u bywydau. O'r ystafell ddosbarth i'r gweithle, rydym yn gwneud pob ymdrech i greu amgylchedd wirioneddol ddwyieithog, â lle blaenllaw i ddathlu'r Gymraeg.

Er nad yw’n bosib gwobrwyo’r holl ymgeiswyr, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod ymdrech pob un a ddaeth i’n sylw.

Mi hoffwn i hefyd annog staff i barhau i gefnogi ymdrechion rhagorol ein cydweithwyr sy’n dysgu’r iaith, ac i wneud pob ymdrech i helpu’r siaradwyr Cymraeg newydd hyn ar eu taith.

Diolch yn fawr iawn am eich parch at y Gymraeg, ac am eich dyfalbarhad a’ch awydd i ddysgu’r iaith. Rydyn ni i gyd yn ddiolchgar iawn i chi ac yn hynod falch ohonoch chi i gyd.”

Dywedodd Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau: “Rydym yn hynod falch o ddathlu llwyddiannau eithriadol ein haelodau staff ymroddedig. Mae’n hyfryd gweld yr amrywiaeth eang o unigolion, a'r rolau amrywiol sydd gan bobl sydd naill ai’n dysgu Cymraeg, neu sy’n gwneud ymdrech arbennig i gefnogi staff a dysgwyr Cymraeg eu hiaith yn y coleg.

Mae eu hangerdd dros yr iaith yn cyfoethogi’r profiad dysgu i’n staff a’n dysgwyr, gan gyfrannu at uchelgais y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r gwobrau hyn yn brawf o'u gwaith caled a’u brwdfrydedd diwyro, ac rydym yn eu llongyfarch yn galonnog ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.”

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date