Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lucy'n dychwelyd i fod yn ddarlithydd dawns yng Ngholeg Menai

Astudiodd Lucy Hawken gwrs Celfyddydau Perfformio, ac mae bellach yn helpu myfyrwyr i wneud camau breision ar gampws newydd Bangor

Mae’r darlithydd dawns, Lucy Hawken, yn mwynhau’r cyfle i roi rhywbeth yn ôl i Goleg Menai drwy helpu myfyrwyr i “ddarganfod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain”.

Astudiodd Lucy gwrs Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lefel 3 yn y coleg rhwng 2018 a 2020.

Ar ôl graddio gyda Gradd dosbarth cyntaf mewn Celfyddydau Perfformio o Shockout Arts ym Manceinion, mae hi bellach yn dilyn cwrs TAR ac yn cael ei chyflogi fel darlithydd ar gampws newydd Bangor.

Gan addysgu ar yr un cwrs ag yr oedd hi dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, mae Lucy yn credu ei bod mewn sefyllfa dda i helpu'r dysgwyr i wireddu eu potensial.

Pan ofynnwyd iddi beth gafodd hi o’i chyfnod yn y coleg sy’n ei helpu yn ei rôl, dywedodd: “Gwybod sut i gefnogi’r dysgwyr, ond hefyd gallu eu gwthio tu hwnt i'r hyn maen nhw'n gyfarwydd â fo er mwyn iddyn nhw ddatblygu o fewn y sesiynau ymarferol.

“Dwi'n mwynhau gweld y dysgwyr yn symud ymlaen ac yn datblygu’n unigol, yn enwedig gyda’u hyder, a chaniatáu iddyn nhw fod y fersiwn orau ohonynt eu hunain.”

Mae gan Lucy atgofion melys o’i chyfnod fel myfyriwr, a dywedodd: “Mae’r cwrs yn rhoi hwb i’ch hyder ac yn rhoi gofod diogel ac amgylchedd cefnogol i ddatblygu ystod o sgiliau mewn dawns, canu ac actio.

“Un o fy hoff atgofion oedd defnyddio’r sgiliau yn ymarferion a pherfformiadau o’r sioe gerdd Chicago 'roedden ni'n ei pherfformio ar ddiwedd y flwyddyn. Drwy'r broses hon mi gawson ni gipolwg ar sut beth ydy gweithio yn y diwydiant.

“Mae’r cwrs yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgwyr berfformio ar lwyfan a chael profiad o weithio o fewn y diwydiant. Rydym hefyd yn cynnig cwrs Lefel 4 fel sylfaen i ddatblygu sgiliau ymhellach.”

Ydych chi eisiau gweithio yn niwydiant y Celfyddydau Perfformio? Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar berfformio, gan gynnwys drama, dawns, canu, cerddoriaeth a chrefft llwyfan gyda Grŵp Llandrillo Menai. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau